Skip navigation
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page
Llwyngwril.
Llansannan
I
Piau glodydd diddiwedd ?
Pencampwr cynydd Gwynedd,
Tudur Aled, fab Heledd.
Piau dysg bardd a phroffwyd ?
'R athro Gruffudd a guddiwyd,
Is Callen dan d'warchen lwyd.
Piau Archwedlog a'i nef?
Hen alltud ymhell o'i dref,
Capten Gwilym Canoldref.
Piau'r Chwibren a'i henfri?
Nefoedd lwyd a'i phroffwydi;
Wiliam Rees, Wiliam Salbri.
Piau Fryn Bugad a'i fri ?
Saint y seiat a'r weddi;
Margied Huws, Edward Parri.
II
Piau swyn Rhyd-yr-arian?
Beirddion, yn fawrion, yn fân,
A llon seiniau Llansannan.
Piau dristwch Rhyd-y-Bedd?
Calonnau caeth pob annedd,
Na wybu wyrth wrth byrth bedd.
Piau heddwch Hiraethog?
Gwennol pan ddaw'n ôl, a'r gog;
Llwyni y grug, a'r llwynog.
Piau hud y Garreg Gron?
Arthur a'i ddur a'i ddewrion
Codant o'u hun yn union.
ABEL FFOWCS Williams
Previous page Rotate Left Rotate Right Next page Original Image Large Image Zoom View text PDF
Jump to page

This text was generated automatically from the scanned page and has not been checked. Typical character accuracy is in excess of 99%, but this leaves one error per 100 characters.

The National Library of Wales has created and published this digital version of the journal under a licence granted by the publisher. The material it contains may be used for all purposes while respecting the moral rights of the creators.