Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Awgrymwyd y pwnc y sydd gennyf gan ddywediad ffraeth o eiddo cyfaill y digwyddodd imi ei gyfarfod trannoeth i'r ymladd- fa baffio fu rhwng y Cymro Farr a'r Americanwr Louis ym mis Medi, 1937. Tystiai mai syniad y byd yn gyffredinol yw mai paffwyr a chwaraewyr pêl-droed ydyw prif gynhyrchion Cymru; ond fe wyr pob Cymro mai pregethwyr, beirdd, ac ambell hen sant gloyw yw cynhyrchion nodweddiadol ei genedl. Cydnebydd y cyfarwydd fod safon llên a cherdd yn uchel ymhlith gwerin Cymru, eithr prin iawn yw'r beirdd a'r cerdd- orion y gellir eu cyfrif yn fyd-enwog. Nodweddir ein diwylliant cenedlaethol nid gan ryw nifer o begynau uchel, eithr yn hytrach gan ryw gynhysgaeth a rydd uwch lefel na'r cyffredin i'r werin ei hun; ac onid gwell ydyw gwerin sydd yn hyddysg yn ei Phanty- celyn na gwerin a gafodd ei Shakespeare ond heb ei adnabod? Pa arweddau i feddwl a phersonoliaeth y Cymro yw'r rheini y gellir eu cyfrif ymhlith ei brif nodweddion ? Rhaid yw cyfaddef mai haws gofyn y cwestiwn hwn na'i ateb, oblegid ymddengys i mi fod meddwl y Cymro yn dra chymhleth a dyrys, a chawn yn ei wead cymhlith yr hyn a gyfenwir gan y Sais yn mass of contra- dìctions Ond ar waethaf hyn y mae gennym bersonoliaeth eglur, ben- dant a chyndyn. Ceisio dangos a wnaf yr awrhon y cymhlith hwn sydd yn nodweddiadol o'r Cymro drwy ei gymharu â dau deip cyferbyniol yn Ewrop, sef y deheuwr a'r gogleddwr, er enghraifft-yr Eidalwr a'r Llychlynwr (Norwegian). O safbwynt meddyleg hanfod y gwahaniaeth rhwng y deheu- wr a'r gogleddwr yw hyn extravert" yw'r deheuwr, in- trot'ert yw'r gogleddwr. Gwn fod amryw gyfieithiadau o'r termau hyn wedi eu hawgrymu, ond er hynny, apeliaf at hynaws- edd yr ysgolheigion i oddef imi gynnig cyfieithiad arall. Galwaf yr extravert yn all-wr" a'r introvert yn ym-wr Prif nod- wedd yr allwr yw ei fod yn weithredydd, hynny yw, yn wr a fyn weithredu, a man of action". Tuedd hwn yw darostwng pob peth a phawb a fo o'i amgylch i'w ewyllys ef ei hun. Yn y gwraidd, yr allwr yw'r milwr, y gwleidydd, y cyfreithiwr, yr athro, y pregethwr a'r meddyg, yn enwedig y llaw-feddyg. Hawdd a naturiol ydyw i'r allwr fynegi ei deimladau drwy weith-