Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hall Street, allan o Vauxhall Road. Symudwyd i festri capel y Wesleaid Saesneg Leeds Street, allan o Old Hall Street. Richard Davies a William Lewis, aelodau gyda'r Wesleaid Saesneg, oedd yr arweinwyr. Penodwyd John Bryan yn genhadwr i Lerpwl yn 1803, a chafodd fod 60 yn cyfarfod yn y Rhestrau Cymraeg. Cynyddodd yr Achos, a rhoddodd un Mr. Comer gapel i'r Cymry yn Maguire Street, ac ardrethwyd capel bychan yn Blundell Street, ym mhen deheuol y dref, yn 1807. Daeth capel Benn's Garden yn wag (hen addoldy'r Presbyteriaid neu'r Undodwyr, a rhagflaenydd eglwys yr Undodwyr yn Renshaw Street ac Ullet Road heddiw). Ail-agorwyd ef fel addoldy'r Wesleaid Cymraeg yn Nhachwedd, 1813-rhif yr aelodau yn 209. Byddai'r capel yn orlawn ar nos Sul. Adeiladwyd capel newydd yn Shaw Street, ac agorwyd ef Rhagfyr 29, 1866. Symudwyd o Shaw Street i Oakfield yn 1907. Yn 1833 y cychwynnwyd yn y pen deheuol i'r ddinas; llogwyd ystafell yn Hill Street. Agorwyd capel Sion, Chester Street, yn Ionawr, 1837. Symudwyd i Fynydd Sion, Princes Avenue, yn Ebrill, 1881; yn 1883 cyrhaeddodd rhif yr aelodau 392, y nifer uchaf yn hanes yr eglwys. Ar ôl colli capel Maguire Street, pan agorwyd Benn's Garden, dechreuwyd cynnal moddion yn Thomas's Court, Bannister Street, ac wedyn yn hen gapel y Kilhamites (Methodist New Connexion) yn Bevington Bush. Yn 1837 symudwyd i gapel yn Burrough's Garden (allan o Scotland Road). Yn 1848 ymsefydlodd Samuel Davies y cyntaf yn eu plith, a llwyddodd yr Achos. Adeiladwyd capel yn Boundary Street ac agorwyd ef yn Rhagfyr, 1862, ond yr oedd yn rhy lydan ac uchel. Penderfynwyd symud i Spellow Lane, ac agorwyd y capel newydd yn Hydref, 1908. Y mae gan yr Eglwys Fethodistaidd heddiw naw o eglwysi Cymraeg yn Lerpwl a'r cyffiniau. Wallasey. H. P. ROBERTS.