Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

enwedig ac yntau ar y pryd yn byw y tu allan i'r ddinas ac felly na byddai byth (hyd y cofiaf) i'w weld yng nghyfarfodydd Cym- deithasau Cymraeg Caerdydd. Gwelwn ei fod yn ddyn llym ei ymddangosiad, a gwyddwn trwy brofiad fod ganddo duedd i amgylchynu môr a thir wrth eilio pleidlais o ddiolchgarwch. Yn awr, i'r cyfeillion eraill y soniais amdanynt, dyn blin­-dyn ystyfnig ac opiniyngar­-oedd Lleufer Thomas. Gwn erbyn hyn paham. I bwyllgorwyr taclus, yr oedd gweld Lleufer yn codi ar ei draed yn destun braw. Nid oedd yn siarad wr deniadol-ac er hynny yn ddigon aml fe siaradai'n faith. Ond y peth gwaethaf oedd ei annibyniaeth a'i gyndynrwydd, a wrth- odai wrando ar deg eiriau Cadeirydd, na chytuno bod rhyw gynnig agos at ei galon ef ei hun yn "anymarferol" neu ar y gorau'n "anamserol." O sgwrs dynion felly (hollol dda eu bwriadau, gyda llaw), cefais innau'r syniad mai cranc ydoedd ef. Am a wn i nad yr unig un o'm cydnabod y byddai ganddo air cyson dda i Leufer oedd yr Athro Gruffydd; ac wedi i rai blynyddoedd basio y deuthum i fod yn gymydog agos iddo ef ac i ddysgu gwerthfawrogi ei farn ar bobl a phethau. Flynyddoedd wedi hynny, disgynnodd sylw Lleufer ar ryw- beth a ysgrifennais; a dyma brofiad o rywbeth na wyddwn am- dano o'r blaen, sef ei ddiddordeb byw yng ngwaith dynion iau nag ef, a'i garedigrwydd wrthynt. Daeth imi nodyn: yr oedd yn ddrwg iawn gan Leufer na allai ef ddod i'm gweld i, oher- wydd cyflwr ei iechyd; ond fe wnawn garedigrwydd mawr ag ef pe down drosodd ryw brynhawn Sul i edrych amdano. Beth a wnâi dyn, felly, ond cerdded drwy'r caeau ar brynhawn Sul braf yn y gaeaf, o Riwbina i'r Eglwys Newydd, a chanu cloch Lleufer, yn bur nerfus ? Cefais groeso mawr, a dechrau rhywbeth a all- asai ond odid dyfu'n wir gyfeillgarwch oni buasai am gwrs bywyd, a'm symudodd o Gaerdydd yn bur fuan. Gwr bonheddig o Gymro a adnabûm yn y ty hwnnw; gwr hawdd dynesu ato, rhadlon a charedig. A gwr hynod fyw ac effro, llydan ei ddiddordeb a'i chwilfrydedd. Er llymed ei wedd, fe fedrai wenu'n heulog. A chwerthin hefyd; nid yn unig am ben mân bethau amlwg ddigrif, ond yr oedd ynddo hefyd ryw gymaint o'r peth dyfnach, mwy mewnol, hwnnw a alwn yn