Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gynhalia. Teitlau'r penodau olaf ydyw :The Suffering of God Redemption by Divine Suffering; The Fellowship of Suffering-Human and Divine; Solvitur Patiendo (" Ceir yr ateb trwy ddioddef "). O dan ddylanwad athroniaeth y Groegiaid tuedd diwinyddion yr Eglwys ar hyd y canrifoedd oedd gwadu'r syniad y medrai Duw ddioddef. Dywedent mai ymadroddion ffigurol oedd yn y rhannau o'r Beibl a briodolai hyn iddo,- ymadroddion dynol nad oeddym i'w deall yn llythrennol. Credent fod eu cymhwyso yn llythrennol at Dduw yn ei ddyneiddio yn ormodol,-yn priodoli methiant iddo, yn ei wneud yn ddibynnol ar ddigwyddiadau amser, ac yn gwadu ei ddiamodedd. Beirniedir y gwrthddadleuon hyn gan y Dr. Robin- son. Gwad eu dilysrwydd, er cydnabod bod anawsterau ynglyn â hwy y mae'n rhaid inni eu hwynebu. Y mae ei ymdriniaeth yn dda er o angen- rheidrwydd yn fyr. Ar y llaw arall, deil fod gwadu dioddefaint Duw yn gwneud y Groes yn annealladwy, ac oherwydd hynny yn lleihau ei hystyr a'i gwerth. Deil hefyd fod yr athrawiaeth am Dduw Sanctaidd yn Dad, Mab, ac Ysbryd Glân, yn cyd-ddioddef â ni a throsom ni, yn rhoddi mwy o olau nag un athrawiaeth arall ar ystyr byd a bywyd, ac yn gymorth mawr i'r Cristion dderbyn ei brofedigaeth a'i thrawsnewid. Barnaf fod y llyfr hwn yn werth ei astudio er mwyn y goleuni a deifl ar broblem dioddefaint, ac am ei awgrymiadau ynghylch y ffordd i'w drawsnewid. Yn y bennod olaf, ar yr ateb trwy ddioddef," dywaid fod tair elfen bwysig y dibynna'r ateb arnynt. (i) Bod gan ddyn bwrpas parhaol mewn bywyd. Pererin ydyw yn gollwng ei afael a symud ymlaen o hyd. Y mae poen yn symbyliad iddo ddal i fyned yn ei flaen. (ii) Ei fod yn edrych i fyny at rywbeth a rhywun uwch- law iddo'i hun a'i galluoga i anghofio hunan i fesur a'i ofidiau a chodi uwchlaw iddynt. (iii) Ei fod yn ceisio tangnefedd yn y byd a'i boen, nid trwy ei adael. DAVID PHILLIPS. HANES YR YSGOL SIR YM MRYNREFAIL. Gan y Parch. John Pritchard, M.A., B.D., Llanberis. Caernarfon: Argraffwyd yn Swyddfa'r Goleuad." 1940. 204 td. Pris 2/6. Credwn y gellir yn ddiogel ddweud bod y gyfrol hon yn gyntaf o'i bath, ac y gellir hefyd fentro dweud y cyhoeddir, yn ôl pob tebyg, eraill cyffelyb iddi ymhen amser. Hanes Ysgol Sir ydyw, a chronicl deugain mlynedd ynddi, cronicl hynod o ddiddorol, yn arbennig i'r sawl a wyr rywbeth am Arfon ac am ardal Llanberis. Gyda llaw, y mae ar yr wyneb-ddalen ragor o fanylion nag a roddwyd gennym uchod; ar uchaf y ddalen ceir y geiriau Dosbarth Addysg Llanberis a'r Cylch," ac islaw enw'r awdur ceir y geiriau "ynghyd â Rhagair gan Syr Wynn P. Wheldon, M.A., LL.B., Llundain," a hefyd hysbysiad mai cyhoeddedig gan y Llywodraethwyr yw'r llyfr. Ac nid gwaeth yw dywedyd yma y rhennir cynnwys y gyfrol yn ddeuddeg penned, y chwanegir at hynny bum atodiad, ac y rhoddir inni ynddi ddeg o ddarlun- iau.