Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pennod yn hanes addysg yn sir Gaernarfon a gawn yn y llyfr hwn, hanes trefnu addysg ganolraddol," os priodol y gair hwnnw, i feohgyn a genethod ardaloedd Llanberis. Ond y mae yma fwy na hynny hefyd cawn gipolwg ar gyflwr addysg mewn aml ran o Gymru yn niwedd y ganrif ddiwethaf, ar ymdrechion arweinwyr ac ar hunan-aberth gwerin, ac ar ddydd y pethau bychain pan oedd yn rhaid i ardal godi ei hun adeiladau Ysgol Sir." Rhyfedd y newid mawr a fu er y flwyddyn 1900; £ 150 oedd cyllid Llywodr- aethwyr rhanbarth Llanberis yn 1894, a £ 256 y flwyddyn ddilynol. £ 120 oedd cyflog sefydlog y Prifathro cyntaf, gyda 30/- arall am bob plentyn a fyddai yn yr ysgol; £ 120 a delid i'r ail athro, gwr oedd wedi graddio yn M.A. yng Nghaergrawnt; a £ 90 i'r athrawes, a hithau'n ferch wedi graddio. A £ 3,000 oedd y swm y cytunwyd i'w dalu am adeiladu'r Ysgol ym Mryn- refail. Heddiw rhoddir cyflogau llawer uwch i athrawon, a gwerir miloedd o bunnau bob blwyddyn erbyn hyn gan y Cynghorau Sir i godi adeiladau ychwanegol at rai ysgolion a godwyd ddeugain mlynedd yn ôl. Gellid ysgrifennu'n helaeth ar rai pobl a phethau a enwir yn y llyfr hwn. Dyna'r diweddar Mr. D. P. Williams, Y.H., Llanberis, a Mr. R. E. Jones, Y.H., dau a wnaeth yn eu dydd wrhydri dros addysg. I rai ohonom un o'r darnau mwyaf diddorol yw'r Atgofion sydd yn y gyfrol, ac yn arbennig sylwadau Mr. H. Parry Jones, M.A., Prifathro'r Ysgol Sir yn Llanrwst, ar Ysgol y Ffriars a'r Ysgol Sir yng Nghaernarfon, dau sefydliad y manteisiodd rhai o blant Llanberis, a'r plwyfi eraill sydd yn y cylch hwnnw, arnynt cyn codi Ysgol Brynrefail. Da oedd casglu'r hanes: bydd gwneuthur hyn yn symbyliad i eraill, mewn siroedd eraill, fynd at yr un gorchwyl. A bydd darllen hanes yr ysgolion hyn yn help i'n pobl ieuainc heddiw weled beth a wnaeth eu tadau a'u teidiau, eu mamau a'u neiniau, ac efallai'n ysbrydiaeth iddynt hwythau fyned rhagddynt a rhagori, os yn bosibl, ar ymdrechion oes a fu. Haedda'r gyfrol le anrhydeddus iawn, yn arbennig ym mhob llyfrgell eglwys neu dref, ac ymysg llyfrau'r sawl a gâr ddarllen hanes addysg yng Nghymru. Ac y mae'n isel ei phris am ei maint. D. Fbancis ROBERTS.