Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Nodion Eleni dethlir canmlwyddiant Y TRAETHODYDD. Priodol yw crybwyll na chyhoeddwyd y cylchgrawn am y flwyddyn 1861. Eto fe'i cychwynnwyd yn y flwyddyn 1845, ac y mae can mlynedd er hynny. Naturiol felly yw inni roddi sylw arbennig eleni i'r ffaith hon. Bwriadwn roddi yn ystod y flwyddyn amryw ysgrif- au lle y gelwir sylw at rai o bethau pwysicaf ei yrfa. Fel y gwelir, dechreuir yn y rhifyn hwn gydag ysgrifau ar y Dr..Lewis Edwards, cychwynnydd y cylchgrawn, ac un o'i ddau olygydd cyntaf. Daw rhagor -o ysgrifau dathlu yn y rhifynnau nesaf. Diddorol yw darllen, yn arbennig yn y gyfrol Bywyd a Llythyrau y Parch. Lewis Edwards, D.D. gwaith ei fab hynaf, y Parch. Brifathro Thomas Charles Edwards, hanes cychwyn Y TRAETHODYDD. Rhoddir rhan dda o ddwy bennod (pen. VIII. a IX.) yn y gyfrol honno i adrodd hanes cysylltiad yr Hen Ddoctor," fel y gelwid ef, â'r cylchgrawn hwn. Disgwyl- iwn ysgrif ar yrfa'r TRAETHODYDD o'r cychwyn, ac yn honno diau y rhoddir lle amlwg i'r bennod gyntaf, o 1845 hyd 1854. Am lawer rheswm cysylltir ef yn arbennig â'r Dr. Lewis Edwards; ond nid pob un o'i ddarllenwyr a wyr mai am ddeng mlynedd yn unig y bu ef yn olygydd iddo, ac mai cyd-olygydd â'r Parchedig Roger Edwards oedd yntau yn ystod y deng mlyn- edd hynny. Ond y mae'n eglur oddi wrth ei lythyrau mai ar y Doctor y syrthiai pen trymaf y baich. Blinai yntau'n fawr dan bwysau'r gwaith. Siomid ef gan ysgrifenwyr a addawsai erthyglau, a chwynai'n dost ar adegau oherwydd hyn. Gorfu, arnaf lenwi y drydedd ran ohono fy hun," meddai am un rhifyn yn 1848, a chwanegai, yr wyf bron cael fy llethu dan y baich a osodid arno. Wedi i'r Doctor roddi i fyny'r olygyddiaeth, daeth eraill i'r adwy. Y Parchn. Roger Edwards a'r Dr. Owen Thomas a enwir