Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Dr. Lewis Edwards a Diwinyddiaeth Ysgrifennodd Lewis Edwards at Owen Thomas ar yr 22 o Fawrth, 1844, yn dweud ei fod ef a Roger Edwards yn bwriadu cyhoeddi cylchgrawn yn ymdrin â llenyddiaeth, diwinyddiaeth, a chwestiynau cymdeithasol. Y mae'r dyddiad yn bwysig, ac y mae'r tri enw'n bwysig. Pwysigrwydd y dyddiad yw iddo nodi carreg filltir yn hanes mudiad cylchgronau Cymru. Cawn yn awr addewid am gylchgrawn gwir eang ei ddiddordeb ar batrwm cylchgronau'r Alban, Lloegr, a Ffrainc,ac yr oedd Lewis Edwards yn gwybod am y cylchgronau hyn. Gorwedd pwysig- rwydd yr enwau yn y ffaith mai'r tri hyn oedd ysgrifenwyr mwyaf treiddgar Y TRAETHODYDD pan ddaethpwyd r'w gyhoeddi yn 1845, ac yn eu hysgrifau hwy ceir adlewyrchiad clir o rai o'r tueddiadau pwysicaf ym meddwl y cyfnod. Dengys ysgrifau'r TRAETHODYDD yn ystod y pum mlynedd ar hugain cyntaf ddylan- wad y mudiadau a ganlyn: Rhamantiaeth yr Almaen, Llenydd- iaeth Feiblaidd Cymru, Y Feirniadaeth Feiblaidd Newydd, Diwinyddiaeth Athronyddol Caergrawnt, Uchel Ddiwinyddiaeth Rhydychen. I Ymgais ydyw'r hyn a ganlyn i ateb y cwestiwn sut yr ad- weithiodd diwinyddiaeth Y TRAETHODYDD, ac yn enwedig diwin- yddiaeth Lewis Edwards, i'r dylanwadau hyn. Deuwn i'r casgliad mai diwinydd yn yr hen draddodiad clasurol, sydd yn ymestyn yn ôl trwy Sant Tomos o Acwin i'r Tadau Eglwysig, oedd Lewis Edwards. Y mae ei ffordd o ymdrin â'r athrawiaeth Grist- nogol am Natur Duw a Pherson Crist yn debyg i ffordd diwin- yddiaeth Mudiad Rhydychen, er iddo gondemnio'n chwyrn y Mudiad hwnnw yn ei bwyslais ar yr Eglwys Weledig. Ac os mynnir llunio enw iddo ar batrwm yr enw "Uehel Eglwyswr", gellir galw Lewis Edwards yn "Uchel Ymneilltuwr Perthyn i'r un ysgol o feddylwyr â P. T. Forsyth yn yr oes o'r blaen, neu J. S. Whale yn ein dyddiau ni. Gweler, e.e., Bywyd a Llythyrau y Parch. Lewis Edwards, D.D. td. 328.