Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Lle Crefydd mewn Addysg Y mae lle crefydd mewn addysg yn bwnc pwysig iawn y dyddiau hyn. Mae'r ddeddf newydd wedi ennyn diddordeb anghyffredin mewn addysg grefyddol trwy'r wlad i gyd. Di- ddorol yw sylwi bod dros dri chwarter o'r areithiau a wnaed yn Nhŷ'r Cyffredin yn ystod ail ddarlleniad y Mesur Addysg newydd yn ymwneud â'r pwnc hwn. O safbwynt addysg grefyddol y mae'r ddeddf newydd yn chwyldroadol. Am y tro cyntaf yn hanes Prydain Fawr y mae'r Wladwriaeth yn gorfodi'r ysgolion elfennol trwy'r wlad i gynnal addoliad cyhoeddus yn feunyddiol, a dysgu'r Ysgrythurau. Dyma fel y dywed y Mesur The school day in every Council School and in every Auxiliary School [h.y., Ysgol Eglwys] shall begin with a collective act of worship on the part of all pupils in attendance at the school, and religious instruction shall be given in every such school." Eto, am y tro cyntaf yn hanes ein gwlad, bydd y Wladwriaeth yn arolygu hyfforddi crefydd yn yr ysgolion. Hynny yw, bydd yn sicrhau bod y pwnc yn cael ei ddysgu, ac yn cael ei ddysgu'n fedrus ac effeithiol. i Fe olyga'r pethau hyn,-sef gorfod cynnal addoliad cyhoeddus yn yr ysgolion elfennol, ac arolygu hyfforddi mewn crefydd gan y Weinyddiaeth Addysg,­fod y Wladwriaeth yn ymyrryd yn union- gyrchol ag addysg grefyddol. Ac wrth gydsynio â hynny dengys yr Eglwysi Rhyddion fod eu polisi wedi newid. Fe safai Ang hydffurfwyr gynt yn bybyr dros ysgar Eglwys a Gwladwriaeth. Buont yn bendant iawn yn gwrthwynebu pob ymgais ar ran y Llywodraeth i ymyrryd ag addysg grefyddol yn yr ysgolion. Erbyn hyn y mae eu hosgo wedi newid yn llwyr. Yng ngeiriau un o'u harweinwyr, y maent yn cefnogi'r Mesur yn frwdfrydig oherwydd gweled ynddo obaith am ddadebru'r grefydd Grist- nogol ym Mhrydain.