Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad EFENGYL IOAN EI HYSTYR A'I CHENADWRI, gan D. Morris Jones, M.C., M.A., B.D., td. 133. Gwasg Aberystwyth. Pris Hanner Coron. Ystyrir yr Athro Morris Jones yn un o'r ysgolheigion Beiblaidd a diwinyddol cliriaf ei ddirnadaeth a feddwn yng Nghymru heddiw. Gwelir hyn yn amlwg oddi wrth ei Werslyfr, Llên a Dysgeidiaeth Israel (1929), a'i adolygiad ar gyfrol y Parch. Ddr. John Oman, The Natural and, the Suŷet- natural (yn Y TRAETHODYDD, Hydref, 1932). Bydd meistroli'r adolygiad hwn yn gymorth nid bychan tuag at werthfawrogi cynnwys cyfoethog cyfrol Oman. A da ydyw clywed adlais o ddiwinyddiaeth iach Oman yn y gyfrol sydd dan sylw gennym yn awr, a hynny ym mhwyslais yr Athro ar berthynas y naturiol a'r goruwchnaturiol â'i gilydd yn nysgeidiaeth Ioan (td. 65). Cofir hefyd am ysgrifau byw yr Athro ar Efengyl Ioan a gyhoeddwyd yn- Y Cyfarwyddwr rhyw ddeuddeng mlynedd yn ôl bellach. Gwnaeth yntau ddefnydd helaeth ohonynt wrth baratoi'r gyfrol hon. Ond teg yw dweud iddo hefyd fanteisio ar bopeth o bwys a gyhoeddwyd ar yr Efengyl hon oddi ar eu hymddangosiad hwy. Rhaid yw gofyn yma beth a gymhellodd yr awdur i gyhoeddi'r llyfr hwn,­un arall at y lliaws sy gennym yn barod ar y Bedwaredd Efengyl! Etyb ef ei hun yn y Rhagair, "Cwynir, ac nid heb achos, bod ychydig o ddarllen y Beibl heddiw, allai o wybod calon ei addysg. Un rheswm, efallai, am hynny ydyw, na ddysgwyd yr oes hon ym mhrif rediad ei wir- ioneddau. Caethiwyd ni'n ormodol i'r dull o'i ddysgu fesul adnpd, a pharagraff. Y mae gwerth mawr yn hynny. Ond Dylid codi uwchlaw ei fanion, a chael golwg, o wahanol fannau, ar y maes i gyd, ei weled yn gyfan, ac ar unwaith, a chasglu ei olud ysbrydol âg un arfod meddwl." Gwelir mai amoan y gyfrol yw rhoddi inni olwg glir a chyfan ar ystyr a neges fawr Efengyl Ioan. A mawr oedd yr angen am gyfrol o'r fath. Perygl Ysgolion Sul Cymru yw treulio dwy flynedd o amser yn y maes cyfoethog hwn ac ar ddiwedd y cyfnod feddu ond syniad digon annelwig am genadwri Ioan rhagor na chenadwri Marc, er enghraifft. Bydd darllen y gwaith hwn yn sicr o waredu caredigion yr Ysgol Sul rhag trychineb o'r fath, canys llwyddodd yr awdur yn dda i gyrraedd y nod a osododd o'i flaen wrth baratoi'r gyfrol hon. Beth ynteu a ddywaid tair pennod ar hugain y gyfrol hon yw cenadwri ganolog Efengyl Ioan ? Hanes, dysgeidiaeth, gweithredoedd, a dioddef- iadau'r Iesu a geir yn yr Efengylau Synoptig. Ceir, wrth gwrs, yr Iesu ei Hun, yn ei gymeriad naturiol a goruwchnaturiol ynddynt hwy. Saif y