Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Tair Telyneg (I) RUGGIERO IL NORMANNO Ruggiero il Normanno! Ni ddwed fy hanes im Y lleiaf peth amdano, Nac am ei dynged ddim. Pwy oedd, ac awr ei fyned, A sut y daeth i fyw I frodir cyn ddillyned, Cyflawn ddirgelwch yw. Ond gan fod it gadernid Ruggiero yn dy faen, Mi a holaf sut y bernid Amdanat oes o'r blaen. A fu dy drem yn tanio O dan y ddwyael dau, Pan oedd y llu yn glanio Ar lydan barth y bau? Neu a arweiniaist oediog, Drystfawr, orymdaith cad Drwy y dyffrynoedd coediog A thros afonydd gwlad? Pa fynwes a'th gysurodd, Ruggiero, oesau'n ôl? Pa galon lwys a gurodd Yn gyflym ar dy gôl? Mi a chwiliaf a gyfranno Dy ddull, a'th barn, a'th b'le, Ruggiero il Normanno, Pan af yn ôl i dre.