Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Bala. BEDDAU 1941 (I) Y beddau yng nghiliau haul, Breydd tristwch bro araul, Gweliau graean a gwiail. (2) Piau y bedd ym Matrw ? Cresni'r tywod a'i ceidw. Annedd Gareth a Gronw. (3) Piau y bedd ym Mardia ? Tonnau'r Meifor a'i gwylia. Henfro Eilyr a Nia. (4) Piau y bedd yn y Rath Yn nhir Wadi a Marath? Neidr eto ni frath. (5) Piau y bedd yn Nacâr ? Hendre unig ar dalar. Einion, bu gwron a châr. R. WALLIS EVANS.