Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Colegau Preswyl ar gyfer Oedolion: Eu Rhagolygon I Cyn y rhyfel presennol yr oedd chwech o golegau preswyl ar gyfer oedolion ym M'hrydain, ac yn ôl safonau'r dydd nid oedd- ynt yn golegau mawr. Ar yr wyneb ymddangosent yn ddibwys, ond yr oeddynt yn bwysicach na'u maint, a hynny'n bennaf ar gyfrif eu dulliau addysgu, eu gwerth cymdeithasol a gyrfaoedd diddorol eu hefrydwyr. Yn wir, proffwyda llawer o arweinwyr addysg heddiw, Syr Richard Livingstone, er enghraifft, yn eu mysg, gynnydd sylweddol yn eu rhif ar derfyn y rhyfel hwn. Sefydlwyd y colegau hyn yn y drefn amserol a ganlyn: Coleg Ruskin, Rhydychen, yn 1899; Coleg Fircroft, Birming- ham, yn 1909; Hillcroft, Surbiton, ar gyfer merched, yn 1920; Avoncroft, yn Sir Wrangon, ar gyfer gweithwyr gwledig, yn 1925; Coleg Harlech yn 1927; a Newbattle Abbey, ger Caer Edin, yn 1937. Dyna'r colegau,-prin ddyrnaid ohonynt. Ar gyfartaledd, tua thrigain o fyfyrwyr a ellid eu derbyn i'r mwyaf ohonynt, cyfanswm o ddau gant o ddynion a thua hanner cant o ferched yn eu cyrsiau blwyddyn llawn. Nid oedd un awdur- dod yn gyfrifol amdanynt. Nid oedd ganddynt nac Awdurdod Addysg na Phrifysgol naç Undeb Llafur wrth eu cefn. Talai'r Weinyddiaeth Addysg gyfran at eu costau yn ôl £ 28 y flwyddyn am bob mab, a £ 26 y flwyddyn am bob merch. Ceisient gael dau ben llinyn eu cyllid ynghyd trwy ddibynnu ar gyfraniadau tuag at gostau'r myfyrwyr oddi wrth Awdurdodau Addysg ac Undebau Llafur, ar danysgrifiadau gwirfoddol, ar roddion oddi wrth gronfeydd megis Cronfa Cassel, ac ar yr elw bychan a wnaent trwy letya ysgolion haf a chynadleddau. Ac eto nid oeddynt yn ddi-ystyr. O'r braidd nad hwy oedd simbol allanol holl waith addysg oedolion yn y wlad. Hwy a ymddangosai gerbron y wlad fel maen do holl adeiladwaith ad- rannau'r Brifysgol, y mudiadau gwirfoddol, yr Awdurdodau Addysg a'r sefydliadau addysgol. Eiddo'r rhain oedd y miloedd myfyrwyr a fynychai eu dosbarthiadau nos wedi gorffen trym- waith y dydd. Enillai'r bobl hyn eu bywoliaeth mewn pyllau,