Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A oes angen Athroniaeth Crefydd ? Y MAE'N sicr bod unrhyw un a efrydo ddiwinyddiaeth heddiw ac a fedr gofio'r hyn a ddigwyddai ddeng mlynedd ar hugain yn ol, yn fyw iawn i'r gwahaniaeth dirfawr sydd rhwng heddiw a'r amser hwnnw. Yr oedd i ddiwinyddiaeth yn y dyddiau hynny, cyn y dilyw megis, ei hanawsterau. Poenid hi gan feirniadaeth newydd ar yr Efengylau, a blinid hi o hyd gan y gwrthdrawiad tybiedig rhwng crefydd a gwyddoniaeth; ond yr oedd iddi un cysur — datblygid yn llwyddiannus athroniaeth crefydd. Er efallai yr amlygai dehonglwyr athroniaeth crefydd duedd anffod- us i anghytuno â'i gilydd, gwelid er hynny obaith da y gallai'r athroniaeth honno fod yn ffordd lydan i Gristnogion o wahanol olygiadau, pobl a berthynai i wahanol enwadau, gerdded rhag- ddynt ar hyd-ddi, a dyfod yn fwyfwy cytûn a'i gilydd. Yn wir, ceid rhai gwyr selog yn proffwydo y cymerai athroniaeth crefydd, yn y man, le diwinyddiaeth gyfundrefnol. Nid disail chwaith mo'r disgwyliadau hyn. Dadleuai meddylwyr amlwg o'r ysgol honno o Idealwyr a ffynnai ar y pryd, gwyr fel Pringle-Pattison, yn gryf dros syniad arbennig am rialiti, y gellid, a bod dipyn yn garedig, ei gyfrif bron yn gyfystyr â theistiaeth Gristiónogol draddodiadol. Nid ydyw James Ward, Clement Webb, a W. R. Sorley, ond enwau ychydig o wyr a saif allan o blith corff lluosog sydd yn trin maes athroniaeth crefydd. Erbyn heddiw newidiwyd y sefyllfa'n llwyr. Gan ysgol o ddiwinyddiaeth Brotestannaidd sy'n ffynnu'n awr ymwadwyd â'r gyfathrach rhwng crefydd ac athroniaeth. Er bod yr Athro Barth yn llai gwyllt ei iaith na Luther pan fyddo'n sôn am reswm, nid yw ronyn llai pendant ei olygiadau nad oes a fynno rheswm o gwbl â diwinyddiaeth Gristnogol. Ond efallai y dylid lliniaru peth ar y datganiad hwn o'i safle ef, oblegid ymddengys y caniatâ yntau y gellir dodi rheswm ar waith i egluro athrawiaeth dat- guddiad a dangos ei chysylltiadau, er na ellir chwaith dibynnu ar reswm i ddangos rialiti Duw na phosibilrwydd datguddiad. Bu dylanwad Barth yn eang, ac effeithiodd ar lawer o ddiwin- yddion na dderbyniasant ei safle ef yn ei holl lymder. Y mae llai o droi am gymorth at athroniaeth, ac y mae mwy o ddibynnu