Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Chweched Llyfr "Odysseia" Homer [AC EITHRIO LL. i — 99.] RHAGAIR. YN Y TRAETHODYDD am Hydref, 1852, ceir trosiad gan y Dr. Lewis Edwards o Hector ac Andromache sef rhan (11. 369 — 502) o Chweched Llyfr Iliad Homer. Ychwanegir nodiadau, a diddorol erbyn hyn ydyw sylwi i'r Dr. Edwards geisio amddiffyn Homer (rhag saethau S.R., y mae'n debyg) trwy bwysleisio bod dynion call a duwiol wedi ei gyfieithu. Yn ei lyfr Traethodau Llenyddol cyhoeddodd yr un awdur, gyda'r trosiad a fu yn Y TRAETHODYDD, Achilles ac Agamemnon", sef cyfieithiad o ddechrau Llyfr Cyntaf yr Iliad. Cyfieithiadau mydryddol yw'r ddau. Yn y ganrif hon cyflwynwyd yr Iliad yn Gymraeg (er nad wedi ei drosi i gyd) gan R. Mlorrow Lewis a'r Athro T. Gwynn Jones. Ni wyddys a fu ymdrech cyn hyn i Gymreigio rhannau o'r Odysseia. Prin bellach ydyw'r ysgolion lle pyncir cerddi Homer ac efallai bod cyfieithu am hynny yn bwysicach. Yng ngwlad bellenig Scheriê, yn chwyddiad y tonnau y lleolir stori Chweched Llyfr yr Odysseia. Adroddir am y dywysoges ieuanc Nawsicaa yn cyfarfod ag Odyssews mewn am- gylchiadau rhyfedd. Saif y llyfr ar ei ben ei hun, hyd yn oed ymhlith y llyfrau Homeraidd, ar gyfrif ei fywiogrwydd manwl yn y gwaith o ddehongli cymeriad. Nid oes yma awgrym o awyrgylch swyngyfareddol Circe a Chalypso. Daw cyfaredd y stori o gefndir dynol a naturiol; ac ar ddeunydd cyffredin ym myd profiad y gweithia'r-bardd ryw anghyffredin hud. Ymddeng- ys bod Nawsicäa, yn ôl y stori, wedi syrthio mewn serch ag Odyssews. Y mae ei ffarwel iddo, yn yr wythfed llyfr, yn dyner odiaeth. Ac eto, mor gynnil ac mor gywrain y cyflwynir ei phrofiad Ac mor brydferth yw awyrgylch y cartref crefydd- ol sydd o'i chwmpas,-peth sydd yn aml yn absennol 0 lenydd- iaeth Groeg.