Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddilyn ar droed, gan mor gyfrwysgall y defnyddiai'r ffrewyll. A darfu wedyn fachlud o'r haul a dyfod ohonynt hwy i'r goedwig glodfawr, mangre gysegredig Athênê. Yno yr eisteddodd Odyssews, ragorol wr, i lawr. Ac yn ebrwydd gweddio a wnaeth ar ferch Zews gadarn. Erglyw fi, blentyn Zews, arglwydd yr aigis, forwyn ddiflin Gwrando fi yn awr, gan na wrandewaist gynt, pan drawyd fi ar y môr, a phan ddarfu i'r Daear-siglwr enwog fy nharo. Rho imi ddyfod i'r Phaieciaid fel un annwyl ac fel un yn haeddu trugaredd." Hyn oedd geiriau ei weddi, a chlywodd Palas Athêne ef. Ond nid ymddangosodd hithau eto iddo wyneb yn wyneb. Ymostwng a wnâi i frawd ei thad, a oedd yn ffromi'n chwyrn yn erbyn Odyssews, hyd oni ddelai i'w briod wlad. Yr Ysgol Ramadeg, Y Bala. J. GWYN GRIFFITHS. SIR BENFRO Mawrth, 1942 Distawrwydd llethol; ninnau'n troi yn ôl At ynnau cudd sy'n llechu 'nghil y llwyn. Llethol-ag eithrio murmur ffwdan ffôl Tonnau mân y bae. Cri ni ddaw na chwyn O'r brwydro trist i aflonyddu'r fro. Distawrwydd. Yna, yn y pellter draw, Didor anhyfryd swn awyren bell. Funud o fagddu, aros, gwrando dro; Prin dro, cyn chwalu'r esmwyth hoen â braw, Try golau, golau, o'i guddiedig gell, Nes ffurfio gwead cyfrin 'fyny fry, A lledu o'i ryfedd rin dros lwyn a llawr. Y fro yn fwyn Afallon deg a dry, Nes difa'r hud gan swn y gynnau mawr. Y Bala. R. Wallis Evans.