Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Dr. Lewis Edwards a Diwinyddiaeth Caergrawnt 1 Beth a ellir ei ddweud am berthynas Lewis Edwards â diwin- yddiaeth y cyfnod yng Nghaergrawnt ? Gwyddai'n burion am y ddiwinyddiaeth a ddysgwyd yno, yr oedd yn gyfarwydd â saf- bwynt dynion fel Richard Watson a Charles Simeon, â gweith- iau Paley ac yn eu gosod fel maes astudiaeth yn y Bala*, a gwydd- ai hefyd am ddiwinyddion newydd y Brifysgol, Thirlwall, J. C. Hare, Millman, a Rowland Williams,­y gwvr hynnyt y dylan- wadwyd arnynt gan Schleiermacher ac i raddau mwy gan Coleridge. Gellir nodi'n fras berthynas Lewis Edwards â'r gwahanol ysgrifenwyr hyn, a manylir ar y pwyntiau yn eu tro. Ffurfiodd cefndir efengylaidd Lewis Edwards gydymdeimlad rhyngddo a Watson a Simeon; derbyniodd hefyd amddiffyniad Paley o grefydd naturiol heb fawr anhawster, ac wrth wneud hynny dilynodd ffasiwn ei gyfnod. Cafodd gweithiau Paley a'r Esgob Butler dragwyddol heol ym myd diwinyddiaeth naturiol y ganrif ddiwethaf, a bu'r ddau o fri mawr yng ngholegau Cymru. Prawf doniol o hynny ydyw'r nifer o grynodebau bych- ain o weithiau'r ddau awdur hyn a geir yn siopau llyfrau ail-law Cymru; "cribs" myfyrwyr diwinyddol oedd y rhain, ac ni fu- asai neb arall yn meddwl am eu prynuî. Am y diwinyddion newydd a nodwyd uchod, er i Lewis Edwards ganmol eu hym- chwiliadau beiddgar i hanes hen wareiddiadau§, ni dderbyniodd The Life and Oỳinions of Robert Roberts," op. cit., td. 155. Cymh. Bywyd a Llythyrau y Parch. Lewis Edwards, D.D. td. 176. t Traethodau Llenyddol," td. 178, 639. î" Bywyd a Llythyrau y Parch. Lewis Edwards, D.D. td. 207; Traeth- odau Llenyddol, td. 625. 'Cymh. Robert Roberts, td. 359; hefyd Rowland Williams, Some Account of the Working of St. David's College (1851). Wele enw un o'r "cribs" hyn "An eỳitome of Paley's evidences of Christianity containing the substance of the arguments composed in that work in the Catechetical Form (1824). § Traethodau Llenyddol, td. 178, 586, seg. 'Gesyd traethawd Lewis Edwards ar Llenyddiaeth a Gwyddiant" y safbwynt clasurol yn glir. Safbwynt y traethawd hwn oedd safbwynt cyson ei fywyd, a derbyniodd bob gwybodaeth newydd yn ei olau.