Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DATGANIAD AR Seiliau Heddwch Cyfiawn a Pharhaol (A BARATOWYD GAN BWYLLGOR MATERION CYHOEDDUS UNDEB BEDYDDWYR CYMRU A MYNWY AR ORCHYMYN Y GYNHADLEDD, 1944)- FEL aelodau o Eglwysi Iesu Grist, ceisiwn edrych ar yr holl broblemau cyd- wladol yng ngolau'r gwirionedd sydd gennym am Dduw, ac am bwrpas Duw ar. gyfer y byd. Credwn mai Duw, fel y datguddir ef yn Iesu Grist, yw gwir Reolwr pob dyn a phab cenedl, ac am hynny y dylai cenhedloedd a gwlad- wriaethau fod yn ddarostyngedig i sofraniaeth Duw. Credwn na bydd unrhyw heddwch yn gyfiawn a pharhaol oni bydd yn heddwch drwy gyd-ddealltwriaeth rhwng y boblcedd, ac y dylai'r Eglwysi eu galw eu hunain a'r cenhedloedd i edifeirwch fel yr unig ffordd i hyrwyddo cymod. Wrth gynnig i ystyriaeth yr Eglwysi seiliau heddwch cyfiawn a pharhaol, pwysleisiwn mai eu gwaith cyntaf ydyw dwyn o hyd fwy o bersonau i reoli eu bywyd yn ôl ewyllys Duw fel y datguddiwyd hi yng Nghrist Iesu. I. SEILIAU POLITICAIDD Credwn *(i) Y dylai holl genhedloedd y ddaear, am resymau Ysbrydol ac oddi ar ystyriaethau ymarferol, ymwrthod â defnyddio grym yn eu perthynas â'i gilydd. Y dylid sefydlu cyfundrefn gydwladol, sef cymdeithas o genhedloedd, yn agored i bob gwlad, fach a mawr, a garai ymuno â hi gyda'r bwriad o sefydlu a chynnal Heddwch. (3) Fod hawl gan bob gwlad, fach a mawr, i'w hannibyniaeth y nod i gyrchu ato yw ymreolaeth i bob cenedl a reolir yn awr gan bobl eraill. (4) Na ddylai unrhyw wladwriaeth fod yn farnwr ar ei hachos ei hun pan gyfyd anghydfod, ac y dylid cyfaddasu Cytundebau Cydwladol 0 bryd i bryd fel y bydd galw am hynny i gwrdd â newid yn yr amgylchiadau. (5) Y dylai pob gwladwriaeth fod yn barod i gyfyngu ar derfynau ei hawdurdod er mwyn daioni'r holl fyd. (6) Nad ydyw'r wladwriaeth yn ddiben iddi ei hun, gan mai'r gorchwyl a roes Duw iddi yw sicrhau trefn wedi ei seilio ar gyfraith sy'n diogelu iawnderau hanfodol dyn. Wedi ei sylfaenu ar "Siarter Iwerydd." Erthygl 8. t Wedi ei sylfaenu ar Ddatganiad Moscow," Tachwedd 7, 1943. Adran 4.