Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau ATGOFION AM Y DR. JOHN PUGH. Gan ei Ferch. Gwasg Gomer, Llandysul. 68 td. 2/6. Cydnebydd pob un a wyr rywbeth am y Parchedig Ddr. John Pugh, Sylfaenydd Symudiad Ymosodol y Methodistiaid Calfinaidd," ei fod yn wr diddorol iawn. Ac felly croesawir ganddynt y llyfr hwn o atgofion personol," gwaith Mrs. Watkin Williams, merch i'r Doctor, a gweddw un o Efengylwyr amlwg y Symudiad hwnnw. Cymeriad anghyffredin ydoedd John Pugh, a cheir yma raddau helaeth o gymorth i ddeall ym mh'le yr oedd cuddiad ei gryfder. Wrth inni ddarllen cyfrol fel hon naturiol yw gofyn a fedr merch ddarlunio ei thad mor gywir a theg ag y dylid. Gellir rhoddi dau ateb i'r cwestiwn hwnnw yn yr achos hwn. Yn gyntaf, atgofion ac nid cofiant a gawn yma; a dylai atgofion fod yn bersonol; disgwylir hefyd i atgofion merch am dad amlwg ddatguddio peth edmygedd, â dweud y lleiaf. Ac yn ail, er y cyfeirir at y tad unwaith yma fel proffwyd (td. 44), eto cydnabyddir amdano ambell waith methai yn ei adnabyddiaeth o bobl" (td. 49),­nodwedd ynddo y gwyr ambell un yn dda amdani; a dengys hyn mor deg yw'r portread ohono. Daw eraill i mewn i'r darlun, megis Seth a Frank Joshua, Richard Burges, Charles L. Perry, a Watkin Williams, o blith yr Efengylwyr; Edward Davies ac Edward Jones, Llandinam, a Richard Cory a Henry Radcliffe, Caerdydd, o blith y cymwynaswyr; a'r Dr. John Morgan Jones a'r Dr. Owen Prys o fysg cefnogwyr gwresog cynlluniau'r Arolygydd, yn ogystal â brodyr a chwiorydd amlwg eraill, heb anghofio Mrs. John Pugh ei hun. A cheir syniad clir yma am dyfiant y Symudiad o'i gychwyn hyd ddiwedd oes y Dr. John Pugh. Y mae gennym un feirniadaeth go lem y mae'r gwallau iaith yn niferus iawn. Ar ddechrau'r llyfr cydnebydd yr "awdures" ei dyled i chwaer a dau frawd a enwir; i'r chwaer am "ddarllen y llawysgrif Saesneg," ac i un o'r ddau frawd am "ei gyfieithu i'r Gymraeg." Y mae'n amlwg i'r neb a edwyn y cyfaill hwnnw na welodd ef y proflenni. Pe gwelsai ef y Rhagair hefyd, ni adawsid yno frawddeg fel hon: Efe [John Pugh] oedd Sylfaenydd y Symudiad Ymosodol ac ni eill ffigurau moel, gan mor argyhoeddiadol bynnag y bônt, ond dangos y gwaith fel un o'r ymdrechion rhyfeddaf yr oes"; ac ni sonnid chwaith am "gyfnewid ei weledigaethau i sylwedd gwir ioneddol." Yn anffodus, gwêl y craff nifer fawr o wallau print a gramadeg ac orgraff yn y gyfrol. Y mae'n debygol mai swnio fel a b c a fwriedid ar dud. 29, yn lIe swnio fel a bae. Un o'r gwallau mwyaf cyffredin yw rhoddi'r ferf yn y lluosog ar ôl rhagenw perthnasol, megis ugeiniau o bobl a unent" (td. 15), ac anghofio hefyd mai a ymunai a ddylid ei sgrifennu a'i ddywedyd. Gresyn oedd i Wasg Gomer adael i gynifer o frychau lithro i'r gyfrol fyw a diddorol hon. D. FRANCIS Roberts.