Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

THE WORD OF GOD IN THEORY ANiD EXPERiIENCE. Darlith flynyddol y Dr. Williams yn y Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin, 'gan y Parchedig Athro J. Vernon Lewis o'r Coleg Coffa, Aberhonddu, a Darlithydd mewn Hebraeg yn y Coleg Cenedlaethol yn Abertawe. Spurrell a'i Fab, Caerfyrddin. Pris i/ Wedi tymor hir o ddylanwad tebyg i un Marcion, yr heretig bore, a rhai Gnosticiaid eraill a fynnai fychanu'r Hen Destament rhagor y datgudd- iad, iddynt hwy, mwy awdurdodol yn y Testament Newydd, a hynny yng Nghymru fel mewn gwledydd eraill, wele ymgais gweddol deg. ar y cyfan i wneud iawn am yr esgeulustod niweidiol hwn o'r Hen Destament drwy ddyfod pregethu a darlithio ar destunau o'r Hen Destament yn dderbyniol, ac yn arweiniol-fendithiol "heddiw'r dydd," chwedl y Dr. Cynddylan Jones gynt. Clywsom am Gymanfa un o'r Enwadau Crefyddol yng Ngogledd Cymru yn ddiweddar, a mwyafrif testunau y pregethau yno yn rhai o'r Hen Destament, ond i fynnu gweled nad dros amser", fel gydag Ioan .Fedyddiwr gynt, y gorfoleddir yn y goleuni a geisir i ni yng Nghymru hefyd heddiw yn yr Hen Destament, dyma un o'n dysgodron amlycaf yn yr Hebraeg, ac un o'r pregethwyr mwyaf proffwydol hefyd, y Parch. Athro J. Vernon Lewis, Aberhonddu, yn traddodi ac yn aragraffu darlith bwysig sydd yn cynnig eto ddarganfod "Gair Duw yn yr Hen Destament, fel yn y Testament Newydd, a phrofi ei fod yn air Duw yn ddibetrus i'n hamser- oedd dyrys ni hefyd, ac er y gellir dweud, gydag adolygydd y ddarlith yn yr Expository Times," mai prif neges y ddarlith, ac awgrymu felly ei hamser- oldeb neilltuol hi heddiw, yw profi mai cenadwri'r Hen Destament atom yw mai "Duw byw" yw ein Duw ni, ac mai yn ei law Ef y mae'r awenau llywodraethol yn nigwyddiadau hanes cofiadwy ac enbyd heddiw. Arddull ddigon debyg i un awdur Epistol Cyntaf Ioan yw un yr Athro Vernon Lewis yn y ddarlith hon. Er y ceidw ef yn ffyddlon at ei brif neges drwy ei ddarlith wych, cymer ryddid, dro ar ôl tro, i ddwyn i mewn ac i egluro aml bwynt atodol yn y ddarlith, ac felly hawdd y gellir edrych ar y ddarlith fel atodiad prydlon a gwerthfawr i gyfrol adnabyddus y diweddar Syr George Adam Smith, The Old Testament and Modern Preaching." Ceir yn y ddarlith ffresni a'i gwna hi'n gyforiog o awgrymiadau ar gyfer pregethau newydd eu hergydion a thra buddiol a chysurlon eu negesau. Cysurwch, cysurwch, fy mhobl, medd eich Duw." Diau y teimla ambell un ohonom ar ôl pori "er adeiladaeth" yn y ddarlith hon na allwn gyflawni ein bwriad yn hyderus iawn bellach i bregethu o lyfrau Esra a Nehemia, fel llyfrau cyfaddas i adeg ad-drefnu nac ail-adeiladu, beth bynnag am greu o'r newydd, gym- dfcithas cyfnod ar ôl y rhyfel. Diddorol hynod hefyd yw gosodiad Mr. Vernon Lewis ar dudalen 16 fod yr iaith Gymraeg yn fwy addas cyfrwng i gyfleu drwy gyfieithiad the colour and lilt of the rhythm of Hebrew poetry nag yw'r Saesneg. Cofiais ar unwaith am fy hen athro Hebraeg hyglod yng Ngholeg y Bala, y Parchedig Dr. W. B. Stevenson, yn cyfaddef i'w wybodaeth ef o'r Hebraeg ei helpu ef i ddysgu Cymraeg yn gynt ac yn ddigon cyflym i'w alluogi i gymryd rhan mewn trafodaeth Cyfarfod Misol ar Berson Crist ar ôl 18 mis yn unig 0