Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddysgu'r Gymraeg, oherwydd iddo ganfod yn fuan gymaint tebygrwydd cystrawen a phriod-ddull y Gymraeg i eiddo'r Hebraeg. Gofod a'm rhwystra i ymhelaethu ar ragoroldeb y ddarlith olau hon. Gwerthir hi am i/ synned pawb o'i darllenwyr a elwir i dalu rhagor am gyfrolau llai eu gwerth yn y pen draw na'r ddarlith hon; a brysied llu eto i'w cheisio, er y gobeithiaf na chânt y profiad siomedig, ac eto calonogol hefyd am chwaeth y cylch, a gefais i yn Abertawe drwy glywed bod yr holl gopïau oedd yno wedi eu gwerthu allan. Cymwynasgarwch adnabyddus y darlithydd yn unig a'm galluogodd i i gael copi o'r ddarlith yn uniongyrchol o'i law hynod frawdol ef. Llanfair-Caer-Einion. G. H. HAVARD. THE RELEVANCE OF APOCALYPTIC A Study of Jewish and Chrìstian Apocalypses from Daniel to Revclation, by H. H. Rowley. pp. 1­192. Lutterworth Press. 1944. 8/6. Y mae enw'r Dr. Rowley, sy'n athro yn yr ieithoedd Semitig yng Ngholeg y Brifysgol ym Mangor, ac yn ysgolor y mae ei fri yn hysbys ym Mhrydain ac ar y Cyfandir, yn ddigon o ernes am ysgolheictod, trylwyredd a gwerth y gyfrol newydd hon o'i eiddo. Y llên ddadlennol neu apooalyptig o Lyfr Daniel yn yr Hen Destament i Lyfr y Datguddiad yn y Newydd yw ei taes; a gwyr y cyfarwydd y ceir rhwng y ddau lyfr canonaidd hyn nifer fawr o lyfrau o'r un natur â hwy y tu allan i'n Beibl, llyfrau a ddaeth i fod yn y ddwy ganrif cyn Crist a'r un ddilynol. Yn ôl y Rhagair deallwn mai pedair darlith a draddodwyd i Ysgol Haf yn Rhydychen yw sylwedd y gyfrol. Dyma gynnwys cyffredínol y penodau: yn y gyntaf cawn hanes ymddangosiad y llenyddiaeth hon ar ôl oes y proffwydi gyda sylwadau ar nodweddion arbennig Apocalyptiaeth; yn y ddwy nesaf (II.­III.) rhoddir trem ar y llyfrau hyn, un bennod yn trafod y llyfrau a berthyn i'r cyfnod cyn Crist, a'r llall y rhai a ymddangosodd yn y cyfnod Cristnogol; a diweddir y gyfrol 'gydag ymdriniaeth werthfawr iawn ar neges arhosol y llyfrau hyn. Ac i gloi'r gyfrol ceir pymtheg tudalen o lyfryddiaeth Saesneg a thramor ar y pwnc, a thri mynegai (pynciau, awdur- on, adnodau). Ofer yn yr adolygiad hwn fydd sylwi'n fanwl ar gynnwys y ddwy bennod ganol, lle y ceir arweiniad diogel ynglyn ag awduriaeth, amser ac amcan y naill lyfr ar ôl y llall llyfrau fel Llyfr Enoc (yn ei wahanol ffurfiau), Llyfr y Jiwbiliau, Testament y Deuddeg Patriarch, Oraclau'r Sibyl, Salmau Solomon, Datguddiadau Baruch, Esra, ac Abraham, Esgyniad Moses. Dyrchafael Eseia, ac felly ymlaen. Digon eto yw dywedyd bod y ddwy bennod yn llawn o wybodaeth ddiddorol a gofalus am gefndir a chynnwys y llyfrau dieithr, eithr nid dibwys, hyn. Yn y ddwy bennod arall .gesyd y Dr. Rowley ei syniadau allan yn hollol glir. Gwir yw ei air am boblogrwydd y llên hon mewn amseroedd enbyd, a rhybuddir ni rhag y defnydd di-ddeall a di-ddychymyg ohoni. Gellir lladd y math hwnnw o'i defnyddio mewn dwy ffordd,-un ai drwy ddangos mor ddisail ar hyd yr oesoedd y bu'r proffwydo hyderus am gwrs hanes ar sail darllen y llyfrau hyn yn arwynebol, gyda rhagfarnau arbennig, neu ynteu drwy astudiaeth fanwl o wir natur y llên hon, ei chefndir hanesyddol a'i