Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Ewrop a'r Dyfodol §i. BYDD dadl frwd yn y misoedd nesaf ar ddyfodol politicaidd Ewrop. A ellir dechrau trefnu at wneud Ewrop "yn un," neu a holltir Ewrop yn ddau ? Daw'r cwestiynau hyn ag atgof- ion am ddigwyddiad pwysig a fu bron ar ddechrau'r rhyfel. Yn Awst, 1939, daliodd y byd ei anadl pan ehedodd Von Ribbentrop i Foscow i gyfarfod â Stalin. Arwyddwyd rhyngddynt gytundeb a rannodd Ewrop yn ddau. Yr oedd heddwch i deyrnasu dan deyrnwialen y Kremlin o'r Môr Baltig hyd at y Môr Du, tra fyddai'r Almaen yn brwydro i ennill, trwy rym, oruchafiaeth ar y gweddill o'r Cyfandir. Amcanwyd at fargen gyffelyb rhwng Napoleon ac Alecsander I., y Tsar o Rwsia, mewn tref fechan o'r enw Tilsit yn 1807. Methwyd â chadw'r fargen honno i wneud Ewrop yn ddau, a methiant fu'r cynnig i gadw'r fargen rhwng yr Almaen ac Undeb y Sofiet. Cafodd y goncwest hawdd ar Ffrainc gymaint o ddylanwad ar Hitler fel y credodd y gallai'r un mor hawdd goncro Rwsia a'i byddin a thrwy hynny wneud Ewrop "yn un," yr Ewrop Hitleraidd oedd i flodeuo am fil o flynyddoedd. Ymhell cyn mil o ddiwrnodau yr oedd breuddwyd Hitler i uno Ewrop yn gandryll. §2. Atgofir rhai ohonom hefyd am ddiwygiad bychan arall a hollol wahanol a ddigwyddodd yn gynnar yn y rhyfel. Am y tro cyntaf mewn hanes aeth dwy lywodraeth Ewropeaidd ati i geisio ffurfio ar bapur fath o undeb ffederal rhyngddynt. Yn Nhachwedd, 1940, cyhoeddwyd bod y ddwy lywodraeth, Llyw- odraeth Pwyl a Llywodraeth Tsecoslofacia, yr adeg honno yn alltudion yn Llundain, wedi penderfynu ar undeb economaidd, a hefyd, mor bell ag oedd yn bosibl, ar undeb politicaidd. Yn fuan wedi hynny bu Llywydd Pwyl-y Cadfridog Sikorski, marw'r hwn ydoedd un o golledion mawr y rhyfel-yn ymweld â Mr. Roosevelt i geisio ei gymeradwyaeth i gynllun oedd â'i fwriad i greu nifer o undebau ffederal rhwng y gwledydd Ewropeaidd, gyda'r amcan o uno Ewrop ac, ar yr un pryd, i CYF. C. RHIF 436. GORFFENNAF, 1945. H