Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Colegau Gwerin i Fis Ebrill eleni cefais un o'r breintiau mwyaf ac un o'r profiadau newyddaf a gefais erioed, a hwnnw ydoedd gwahoddiad i ddar- lithio ac i arwain trafodaethau mewn Coleg Gwerin a gynhelid am wythnos yn Llanmadog, gerllaw Abertawe. Arbrawf ydoedd, arbrawf Cymreig a drefnid gan Mr. Elwyn Jones, Trefnydd yr Urdd dros y Deheubarth. Gwahoddwyd i'r gwersyll tua phymtheg ar hugain o ferched a bechgyn ieuainc o wahanol ran- nau o'r De, ac ar hyd yr wythnos yr oedd pawb yn cydfydio yn y gwersyll. Nid fy mwriad yma ydyw rhoddi cronicliad o hanes y gwersyll ei hun; fe wnaethpwyd hynny mewn newyddiaduron a phapurau eraill. Ceisiaf yn hytrach drafod arwyddocâd ac ystyr y diddordeb a'r bywiogrwydd mawr i drafod materion cyfoes o bob math a welwyd yn Llanmadog, ac a welir hefyd ym mhob dosbarth neu gylch myfyr gwerth ei halen trwy Gymru i gyd y dyddiau hyn. A chan fod cymaint o sôn am Golegau Sir, Ysgol- ion Crefft, etc., yn y gwynt, byddai'n fuddiol ceisio gwybod pa bynciau sy'n diddori pobl, a pha bynciau y mae pobl yn eu hys- tyried, yn gam neu gymwys, fel allweddau anhepgor i agor drysau'r dyfodol. Ddwy flynedd yn ôl, bu pwyllgor ohonom yn gwneud ym- chwil i weithgarwch y Dosbarthiadau Allanol a Dosbarthiadau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Ngogledd Cymru. Yng nghwrs yr ymchwil daeth amryw bethau o bwys i'r amlwg, pethau yr oedd yn rhaid i ni fel pwyllgor ac fel Rhanbarth eu cofio wrth geisio llunio argymhellion ar gyfer y dyfodol. Y ffaith bwysicaf i'n pwrpas ni yma ydoedd hyn: mai dewis bwnc cyntaf dosbarth- iadau'r Rhanbarth ydoedd Materion Cyfoes. Cynhwysai'r pwnc hwn wrth gwrs bethau eraill, megis Economeg, Materion Rhyng- wladol, Damcaniaethau Gwleidyddol, a materion o'r un natur, ond i bwrpas arolygiad cynhwysid y cwbl yn un grwp. Yr oedd mwy o ddosbarthiadau felly, rhwng 1938 a 1943, yn trafod y pynciau hyn yng Ngogledd Cymru nag unrhyw bwnc arall. Yr ail ddewis ydoedd Llenyddiaeth Gymraeg. O 1937, pryd yr oedd