Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Perthynas yr Ysgol Sul â'r Ysgol Ddydd yn wyneb Deddf Addysg 1944 1 Y MAE'R flwyddyn hon yn un bwysig yn hanes Addysg ein gwlad, oherwydd ar Ebrill i, 1945, daeth Deddf newydd, a gysylltir ag enw Mr. R. A. Butler, i rym. Ysgrifennwyd llawer eisoes ynglvn â'r cam pwysig hwn, ac y mae'n werth inni sylwi y gwneir y cais hwn i wella addysg ddyddiol ar adeg pan yw'r Ysgol Sul yn wannach nag y bu ers dyddiau lawer. Cwynir yn fynych, ac nid heb achos, yn ein cynadleddau, fod rhif ei deiliaid yn lleihau bob blwyddyn, ei hathrawon yn brinnach, a chanlyniadau'r addysg a gyfrennir ynddi yn waelach na chynt. Yng nghynllun newydd y wladwriaeth trefnir i gynnal addoliad Cristionogol ym mhob ysgol, yn y rhai elfennol a'r rhai canolradd fel ei gilydd, ac i roddi hyfforddiant crefyddol a fydd yn rhan orfodol o waith yr ysgolion, ac yn un y bydd arholi arno fel ar bynciau eraill. Er mwyn sicrhau hyn rhoddir cyfle i'r Awdurdodau Addysg, i'r athrawon ac i gynrychiolwyr y gwahanol Eglwysi, geisio dyfod i gyd-ddealltwriaeth â'i gilydd ynglyn â chynnwys addysg gref- yddol yn yr ysgolion, a diogelir hawliau cydwybodol athrawon na fynnant gyfrannu gwybodaeth o'r fath, yn ogystal â rhai'r rhieni na ddymunant i'w plant dderbyn yr hyfforddiant hwn. Gwir y disgrifiodd y diweddar Archesgob Temple y mesur fel un o gyfiawnder cymdeithasol, a gwelwn hefyd fod newid mawr wedi dyfod dros safbwynt y mwyafrif mawr o Anghydffurfwyr. Bu adeg pan honnent, gyda'r Dr. R. W. Dale ac eraill, nad gwaith yr ysgolion dydd oedd cyfrannu addysg grefyddol, eithr gwaith priod a naturiol yr Eglwysi. Erbyn hyn, fodd bynnag, sylwedd- olir bod miloedd lawer o blant y tu allan i'r holl Eglwysi, ac na ddylid oherwydd hynny eu hamddifadu o gyfle i wybod am gyf- oeth y Beibl, ac am ystyr crefydd wirioneddol mewn bywyd. 11 Y mae'n rhaid addef na welir hyd yn hyn lawer o arwyddion sel mawr dros y Ddeddf newydd. Eisoes gohiriwyd dyddiad codi'r oed i un-ar-bymtheg, ac y mae'n debyg na welir am rai