Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Dr. Lewis Edwards a Beirniadaeth Feiblaidd Soniwyd gennym yn y ddwy ysgrif flaenorol ar y Dr. Lewis Edwards (rhifyn Ionawr ac Ebrill o'r TRAETHODYDD) am ei berthynas ef â diwinyddiaeth ei gyfnod, ac ym mysg pethau eraill â'r hyn a elwir yn Ddiwinyddiaeth Caergrawnt. Deuwn yn awr at y Feirniadaeth Feiblaidd newydd. Beth oedd hon, a beth oedd agwedd Y TRAETHODYDD tuag ati½ ? Yn 1826 etholwyd Ferdinand Christian Baur (1792 — 1860) yn athro ym Mhrifysgol Tübingen. Disgybl oedd i'r athronydd Hegel. Crefydd Iddewig Fesîanaidd oedd Cristnogaeth, medd Baur, ond o fewn y traddodiad Iddewig yr oedd dau safbwynt yn wrth- gyferbyniol i'w gilydd, sef yw hynny, safbwynt Paul a safbwynt Pedr. Honnodd i'r ddau safbwynt dynnu ar draws ei gilydd hyd onid asiwyd hwy i'w gilydd yn yr ail ganrif. Nid yw Baur am ddweud bod yr asiad wedi llwyddo i gysoni athrawiaeth (sylwer ar y pwyslais, a nodwyd ef o'r blaen gan awduriaid eraill), ond yn unig mai dyma a ddigwyddodd fel mater o ffaith. Nid oes rhaid inni dderbyn safbwynt Baur, y mae'n hawdd gweled ei fod yn gweithio yn ôl fformiwla Hegel ac yn chwilio am nodweddion gwrthgyferbyniol mewn cyfnod er mwyn eu cysylltu â'i gilydd yn ddiweddarach. Bu'n ceisio cymhwyso athrawiaeth Hegel am wrthgyferbyniadau at lyfrau'r Testament Newydd. Honnai mai'r Epistolau at y Rhufeiniaid, y Galatiaid, a'r Corinthiaid, oedd yr unig epistolau o eiddo Paul; oblegid, meddai, yr oedd ynddynt arwyddion gwrthdaro,-ac yr oedd yn rhaid i holl weithiau Paul ddangos gwrthdaro yn erbyn tuedd- iadau ysgol Pedr. Ni cheir y gwrthdaro yn y lleill, ac felly y mae'n rhaid eu bod hwy'n weithiau diweddarach, wedi i'r frwydr rhwng Paul a Phedr golli ei hangerdd. Am yr Efengylau, y mae'r Efengyl yn ôl Sant Mathew yn dangos tueddiadau Iddew- iaeth hen ffasiwn yn gwrthdaro'n erbyn yr Iddewiaeth newydd (Cristnogaeth). Felly ysgrifennwyd hon mewn cysylltiad agos â'r cweryl, a hi yw'r efengyl hynaf. Y mae'r Efengyl yn ôl Sant Marc yn cuddio'r gwrthdaro, ac felly'n ddiweddarach. Dug y bedwaredd Efengyl heddwch yn ei hôl am fod y gwrthdaro wedi colli ei ddiddordeb. Hi yw'r ddiweddaraf o'r efengylau.