Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trin y Bywyd Cyfan Y mae iechyd eneidiau yng Nghymru heddiw yn peri an- esmwythyd ym meddwl pob un a gâr les ein cenedl. Ceir yma ychydig filoedd o Feddygon i wylied cyflwr iechyd corff, a cheir nifer fwy o weinidogion i wylied diddordebau'r ysbryd; ond prin iawn yw'r bobl a'u cymhwysodd eu hunain i drin helbulon yr enaid neu'r bersonoliaeth gyfan. Gwir iawn yw na allwn wneud heb ein meddygon na'n hefengylwyr. Y mae i'r ddwy swydd eu lle yn hanes pawb ohonom o'r crud i'r bedd, mewn argyfyngau hyfryd ac anhyfryd, a chyflawnir y gwaith yn effeith- iol ganddynt gan amlaf. Ond pan feddylier am iechyd yr enaid fel cyfuniad o iechyd corff ac iechyd ysbryd, neu fel iechyd yr organeb gyfan, gwelir yn glir iawn mai ychydig yw'r darpar- iaethau ymarferol ac effeithiol i ymdrin ag anhwylderau yn y maes pwysig hwn. Nid yw'r meddyg na'r gweinidog mewn cyffyrddiad uniongyrchol â'r helyntion cyffredin a ddigwydd ynddo. Rhyw fath ar Dir Canol, neu efallai "Tir Neb," rhyng- ddynt ydyw. Maes arferol y meddyg yw afiechydon amryfal, a daw i gyffyrddiad â ni mewn ystafell wely neu feddygfa neu ysbyty. Maes arferol y gweinidog ydyw'r amrywiol gyflyrau ysbrydol, a daw i'n cyrraedd mewn pulpud neu gyfarfod crefyddol neu ym- weliad achlysurol â'r cartref. Ond nid yw'r naill na'r llall yn ein hymyl yn ein trafferthion beunyddiol. Ni ddaw'r meddyg ond pan anfonir amdano, ac ni chroesawir gweinidog ond i nifer gyfyngedig o gartrefi: ond bob dydd o'r flwyddyn ac ar bob aelwyd drwy Gymru y mae blinderau Tir Neb yn galw am fedd- yginiaeth ac am Efengyl. Yn y tir hwn y treulia'r mwyafrif ohonom ein helbulus oes. Gwir yw bod gennym ar brydiau ein hanghenion fel cleifion a hefyd fel pechaduriaid, bid sicr, ond y mae inni i gyd ein hang- henion cyndyn fel rhai a fetha ag ymagweddu yn foddhaol i ofynion bywyd gwir gymdeithasol. Yn y Tir Neb hwn nid cleifion mohonom, ac nid pobl mewn angen am gyffuriau ne'i