Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau IDEAS HAVE LEGS. By Peter Howard. pp. 190. 7/6. Published by Frederick Miiler, Ltd., London. 1945. Syniadau'n cordded yw'r gallu mwyaf yn y byd, medd ein hawdur. Y mae syniadau'n cerdded pan rydd dynion goesau iddynt. Dyna a wnacth Hitler. He formed an idea. He ate, slept, toiled, lied and fought for it. It was such a fire in the heart of this unknown man that it inflamed millions, and shook civilisation and made inconclusive the courage and sacrifice of the men who fought the last war." Gwir hyn am Lenin hefyd. Nid yw ewyllys da mewn dyn na chenedl o fawr grym i wrth- sefyll y neb y byddo ei ewyllys wedi ei feddiannu gan ryw syniad y rhydd ef dderbyniad llwyr iddo. Nid yw dymuniadau da na delfrydau ynddynt eu hunain namyn cyflwr meddwl dyn. Ond y mae ewyllys wedi ei medd- iannu gan syniad yn allu nad yw cyflwr meddwl, pa mor odidog bynnag y bo, ond megis dim o'i flaen. Ideas â choesau iddynt ac yn cerdded drwy'r byd sy'n penderfynu ei dynged. Dyma un o'r ideas sydd wedi meddiannu ein hawdur ac wedi ei yrru i sgrifennu'r llyfr hwn. Bu'n gweithio am rai blynyddoedd fel newyddiadurwr yng ngwasanaeth Arglwydd Beaverbrook. Gweithiai Winston Churchill am dymor yn yr un swyddfa ag ef. Yn y dyddiau hynny meddiennid Churchill gan un idea fawr. Idea fawr Lenin oedd mai un dosbarth sydd i lywod- raethu; Idea fawr Hitler mai un genedl sydd i lywodraethu; Idea fawr Churchill oedd, Ni chaiff y Natsiaid lywodraethu; mae'n rhaid eu dinistrio. Y mae hwn wedi bod fel tân yn ei enaid ar hyd y blynyddoedd, ac wedi ei wneud y gallu gwleidyddol mwyaf yn ein gwlad ac yn un o'r galluoedd sy'n newid cwrs y byd. Y mae angerdd idea Churchill i ddinistrio Natsiaeth fel gallu gwleidyddol wedi Ilwyddo yn ei amcan. Ond a yw hyn yn ddigon? Beth am ideas ysgogol Natsiaeth ? A ydyw'r rhain eto'n fyw ? Eu cnewyllyn, medd Howard, yw awydd cael, — cael arian, awdurdod, uchafiaeth ar eraill, moethau bywyd i ddyn ei hunan. Dyma sydd wrth wraidd Natsiaeth, Ffasgiaeth, Comiwnydd- iaeth a Materoliaeth ymarferol yr holl wledydd. Hwn sy'n andwyo perthynas y gwledydd â'i gilydd-canlyniad iddo yw rhyfel-ac ef sy'n andwyo perthynas y rhywiau â'i gilydd, perthynas meistr â gwas, cyfoethog â thlawd; ef yw prif wreiddyn pob anghydfod rhwng dynion. I atal rhwysg a dinistr yr ideas hyn rhaid fydd eu gwrthwynebu gan ideas cryfach. Y mae. ideas cryfach yn y byd, a'r rhyfel sylfaenol mewn gwledydd Cristnogol, beth bynnag, ers dwy fil o flynyddoedd, bellach, ydyw'r rhyfel rhwng yr ideas sy'n tarddu o Grist a'i Groes a'r ideas sy'n cynhyrfu hunanoldeb a hunan-gais. Ond dibynna ideas Cristionogol am eu grym ar eu llwyddiant i gymryd meddiant o ewyllys dynion. Ni feddant fawr grym yn erbyn y rhai sy'n meddiannu ewyllysiau dynion anianol, oni chânt hwy feddiant glân ar eneidiau'r credin-