Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dwyfol ym mhob dim-a gosod hunanles yn is-amcan. Cawsant gefnogaeth calonnog eu gweithwyr i'w ffordd o fyw ac o amaethu, a thrwy gyd-drafod â hwy broblemau'r fferm y deuai yr arweiniad iddynt yn aml. Cymeradwywn y llyfr hwn i sylw pob un sydd am oleuni clir ac argyhoedd- iadol ar Gristionogaeth fel ffordd o fyw, ac i bob un a hoffai weled yr ideas sy'n tarddu o Grist a'i Groes yn cerdded trwy ein gwlad a'r gwledydd. DAVID PHILLIPS. Y DWYMYN, 1934-35. T. Gwynn Jones. Gwasg Aberystwyth, 1944. YR EFENGYL DYWYLL A CHERDDI ERAILL, gan J. Gwyn Griffiths. Gwasg Aberystwyth, 1944. CERDDI 1934-1942. Alun Llewelyn Williams. Gwasg Gymraeg Foyle, 1944. Yn Y Dwymyn cyhoeddodd y Dr. Gwynn Jones gerddi a gyfansoddwyd ganddo ragor na deng mlynedd yn 61, a dyma ychwanegu cyfrol arall at nifer mawr llyfrau'r awdur. Ysgrifennwyd y rhan fwyaf o'r cynnwys ar y mesur vers libre cynganeddol, enghraifft arall o'r arbrofi mydryddol y mae'r awdur mor hoff ohono. Ni wn i ai'r Dr. Gwjnn Jones a wnaeth yr arbrawf hwn gyntaf ychwaith; fe gofir i'r Parch. Gwyndaf Evans ennill ar awdl ar yr un mesur yn Eisteddfod. Caernarfon am 1935. Rhwng y ddau fardd a'i gilydd yn y mater. Kr ei fod yn torri ar diaws pob traddodiad canganeddol, y mae'r dull hwn o fydryddu yn bur effeithiol, oherwydd dyry'r gynghanedd ffurf ar y llinell, a rhoi boddhad i'r sawl sy'n methu cael dim math o angor yn y verse libre cyffredin. Dyry hi hefyd rythm i'r llinell, ei rhythm ei hun, wrth reswm, ac nid bychan o ennill yw hynny. Y mae yn y llyfr un ddychan, sef Y Saig," un gerdd sy'n debyg i delyneg, "Y Ffenestr," ac un neu ddwy o gerddi myfyrdod. Yr hwyaf o'r rhain yw Ofn Byddaf fi'n teimlo am gerddi myfyrdod y Dr. Gwynn Jones (a chofier mai barn bersonol yw hyn) fod ynddynt ryw wamalu rhwng difrifwch a chlyfrwch, rhyw ddiffyg argyhoeddiad. Ond yn y gerdd hon, Ofn," teimlaf fod cryn lawer o sicrwydd a chri calon. Pwnc y myfyr yw dyn 'yn myned yn gaethwas i'w ddyfeisiau ei hun, a dyma gasgliad y bardd Er hyn, ei ddyfais gywrain fydd ofer, a'i fedr ni bydd ond ynfydrwydd. canys dyfais a fag wanc, onis dofer o bwyll ac uniondeb ewyllys. O gychwyn ei yrfa lenyddol bu'n hoff gan y Dr. Gwynn Jones adrodd stori ar gân, a dyna yw mwyafrif cerddi'r llyfr hwn. Teimlir efallai nad yw'r gynghanedd a'r ieithwedd goeth glasurol yn gweddu'n dda iawn i'r storïau am fywyd heddiw, fel "Dadannudd," ac yn arbennig "Dirgelwch." Ond y mae'r mydr a'r iaith a phopeth yn gytûn i wneuthur Cynddilig yn gampwaith. Mab Llywarch Hen oedd Cynddilig, a gwr na fynnai fyned i ymladd fel ei frodyr eraill, ond a laddwyd yn y diwedd yn amddiffyn merch