Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ALLiUD. Rhagarweiniad i wcithiau James foyce. Gan Aneirin Talfan Davies. Lundain. Gwasg Folye, 1944. Yn ysbryd y cenhadwr y daw Mr. Davies at ei destun. Y mae'n llawn brwdfrydedd dros weithiau'r llenor Gwyddelig, ac yn llwyr argyhoeddedig nad yw Cymru, hyd yn hyn, wedi rhoi iddynt y sylw a haeddant nac wedi sylweddoli eu bod yn codi cwestiynau pwysig y talai inni eu hastudio fel cenedl. "Ond," meddai Mr. Davies yn ei Ragymadrodd, "cyn y gellir gwneud hynny, rhaid wrth ryw fesur o bropaganda ar eu rhan i'w dwyn i sylw'r rhai sy'n ymddiddori mewn llenyddiaeth ddifrifol." Ac ymgais at hynny, meddai, yw Yr Alltud." Fel propaganda y mae Yr Alitud" yn llwyddiant; pe digwyddai i rywun na ddarllenodd erioed lyfr o eiddo Joyce ddarllen llyfr Mr. Davies, y mae'n anodd credu y byddai'n fodlon wedyn heb ddarllen rhai, beth bynnag am y cwbl, o lyfrau Joyce ei hun. Y mae astudiaeth Mr. Davies-a hynny o destun anodd-yn fyw, diddorol a darllenadwy. A chan gofio'r tywyllwch sy'n gorwedd tros rai o lyfrau Joyce, y mae'n sicr y teimlai'r sawl a ymgodymai â hwy am y iro cyntaf, yn ddiolchgar am arweiniad y nodiadau yn Yr Alltud." Eíalla; mai awydd yr awdur i argyhoeddi, ac i gael ereill i gyfranogi o'i frwdfrydedd ef ei hun, sy'n cyfrif am y pendantrwydd eithafol braidd, a'r duedd i gyffredinoli, sy'n rhedeg drwy'r llyfr. Er enghraifft, pan ddywed Mr. Davies am The Portrait of an Artist as a Young Man cafodd y gyfrol dderbyniad brwdfrydig gan y sawl a garai lenyddiaeth. O'r diwedd yr oedd y wawr yn torri. Rhestrwyd ef ymhlith llenorion blaenllaw'r byd y mae brwdfrydedd wedi pylu rhywfaint ar farn y beirniad. Heddiw y mae'n gynnar ar y dydd i geisio penderfynu gwir werth a phwysigrwydd gweithiau James Joyce. Bydd ffurfio barn gytbwys arnynt yn dipyn haws ar ðl.treigliad canrif. Hwyrach, erbyn hynny, er gwaethaf y pwys a rydd Mr. Davies ar ddewisiad Joyce o alltudiaeth o'r Iwerddon, y bydd y ffaith honno bron yn angof a'i weithiau'n aros am resymau tra gwahanol. Y Bala. T. G. HUMPHREYS JONES. PAX CHRISTI. The Rev. A. V. Belden, D.D. Carwal Publications Ltd., Wallington, Surrey. 2/6. Arolygydd Cenhadaeth Ganolog Whitefield, Llundain, gynt, capel a lwyr ddinistriwyd yn niwedd y Rhyfel gan y bomiau a yrrwyd gan y gelyn yn syth o'r Cyfandir, yw awdur y llyfr hwn, a chyda llaw awdur cofiant gwych i George Whitefield. O glywed a darllen llawer yn ystod y Rhyfel am y perygl i ryfeloedd ein difodi ni, drigolion y ddaear, pwy a wâd nad dyletswydd bennaf pob dyn a fynno fyw a gweled dynoliaeth yn ffynnu, yw chwilio am ryw gynllun orchfygu a difodi rhyfel ei hun, a chefnogi'r cynllun hwnnw â'i holl egni?