Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMRU ÜDtDOE, sef Cefndir Hanes Cymru. Gan A. H. Williams, M.A., Prifathro yr Ysgol Sir, Rhuthun. ADDYSG. Gan W. Moses Williams, M.A., Athro Addysg Coleg y Gogledd, Bangor, a Warden Neuadd Reichel. Y WASG GYMRAEG. Gan E. Morgan Humŷhreys, M.A. GLO. Gan James Griffiths, A.S., Llanelli (Cyn-Lywydd Undeb Glowyr De Cymru). Pedair cyfrol gyntaf CYFRES JPOBUN, a gyhoeddir gan Wasg y Brython, Lerpwl, gyda'r Parchedig E. Tegla Davies, M.A., yn Olygydd iddi, yw'r llyfrau y rhoddir rhestr ohonynt uchod. Amrywiant ryw ychydig yn nifer y tudalennau sydd ynddynt: ceir dwy gyfrol yn 62 tud. a dwy arall yn 68 tud. Ond yr un yw pris pob un ohonynt, dau swllt. Y mae'n amlwg bod y pedwar gwr yr ymddiriedwyd iddynt ysgrifennu'r pedwar llyfr hyn, yn feistriaid ar eu gwaith, a gellir dywedyd hyn hefyd am y brodyr a'r chwaer a enwir fel awduriaid y cyfrolau eraill y disgwylir eu cyhoeddi yn y gyfres. Da oedd cychwyn gyda ffrwyth efrydiau Mr. A. H. Williams; gwyr llawer am ei waith fel hanesydd. Pedair pennod sydd i'r llyfr hwn ganddo: Cenedl a Chenedlaetholdeb y Cymry; Cefndir Hanes y Cymry; Sylwadau Cyffredinol; Epilog. Credwn y gellid efallai gael gwell teitl i'r drydedd bennod; ond ni ddylid namyn canmol v cynnwys drwyddo draw yn y bennod honno a'r ddwy a'i rhagflaena. Pedair pennod sydd hefyd i gyfrol yr Athro Moses Williams Y Gwreiddiau; Y Gyfundrefn; Y Cynllun Posibilrwydd y Dyfodol. Ceir yma lawer o hanes Addysg yng Nghymru er y flwyddyn 1870 a chyn hynny, heb anghofio ysgolion Gruffydd Jones o Landdowror; cawn hefyd hanes diwedd- arach y gyfundrefn Addysg yn ein gwlad, a golwg ar heddiw ac yfory. Cyfrol ddarllenadwy iawn a diddorol yw honno ar y Wasg Gymraeg, gan Mr. Morgan Humphreys, ychydig yn ysgafnach ei phwnc na'r ddwy arall. Braslun y gelwir hi yn y Rhagair; ond nid catalôg o gwbl mohoni, eithr un bennod ar bymtheg, heb deitl penodol i'r un ohonynt, a'r bennod olaf vn ein rhybuddio bod "dyfodol y genedl Gymreig yn dibynnu i raddau pell iawn ar ddyfodol ei gwasg." Ac meddir ymhellach, Neges yr hyn a ddy- wedwyd am y wasg Gymraeg yma ydyw mai un ffordd i gadw enaid y genedl yn fyw ydyw trwy ofalu bod ganddi wasg gref, annibynnol, a rhoddi i honno bob cefnogaeth a fo'n bosibl." Ddoe, Heddiw, Yfory, yw teitlau tair adran cyfrol Mr. James Griffiths ar bwnc Glo. Rhennir pob adran yn is-adrannau, ond ni ddodir rhif wrth y naill na'r llall. Yn yr adran ganol, Heddiw," cychwynnir gyda thraethu ar y diwydiant ar drothwy'r Rhyfel. Dichon mai'r adran fwyaf diddorol, er na ellir gwerthfawrogi honno heb y ddwy a ddaw o'i blaen, yw'r olaf yn y llyfr, ar Beth am Yfory?". iRhoddir ynddi raglen o welliannau y dylid eu cael ar fyrder, os mynnir, fel y dylid, codi safon bywyd y glowr. Dylai pob chwarelwr a masnachwr, a phob amaethwr a phob merch, yn arbennig