Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Y Traethodydd a Phynciau'r Dydd GANWYD Y Traethodydd mewn cyfnod anesmwyth. Yn 1845 yr oedd yn bedair blynedd ar ddeg er pan ddiwygiwyd yr ethol- fraint, pan fu'r wlad yn ymyl chwyldro, ac erbyn y flwyddyn 'honno yr oedd y gwrthwynebiad i Ddeddfau'r Yd wedi creu safle oedd yn myned yn fwy peryglus bob dydd, a llawer o bobl, nad oeddynt yn arfer bod yn ofnus iawn, yn pryderu ynghylch y dyfodol. Chwe blynedd cyn cyhoeddi'r TRAETHODYDD bu cynnwrf y Siartiaid yng Nghasnewydd, ac yn 1840 anfonwyd y prif arweinydd yn yr helynt hwnnw, John Frost, i alltudiaeth yn Van Diemen's Land. A chroen ei ddanedd y dihangodd rhag ei grogi. Yn Iwerddon yr oedd newyn yn difrodi'r wlad; yr oedd y Gwyddelod yn marw wrth y cannoedd ac yn gadael eu gwlad am yr America wrth y miloedd, ac am fod pobl oedd ar lwgu yn methu â thalu eu rhenti, troid hwy allan o'u tai truenus i gymryd eu siawns. Yr oedd undebau llafur heb gael eu traed danynt, ac amodau gwaith yn y gymdeithas ddiwyd- iannol newydd yn druenus i'r eithaf mewn llawer diwydiant. Yn 1840 y gwnaeth y comisiwn a benodwyd fel canlyniad i daerni Arglwydd Ashley (Arglwydd Shaftesbury ymhellach ymlaen) ymchwil i amodau gwaith yn y pyllau glo. Cyhoeddwyd yr ad- roddiad yn 1841, ac mewn canlyniad cafwyd Deddf y Mwyn- gloddiau yn 1842, yn gwahardd cyflogi merched i weithio o dan y ddaear ac yn gwahardd cyflogi bechgyn o dan ddeg oed yn yr un gwaith. Bu uchel gri yn erbyn ymddygiad mor haerllug â hawliau'r unigol ac â pherthynas meistr a gwas. Nid oedd pethau yn dawel ar led, ychwaith. Ymhen tair blynedd ar ôl cychwyn Y Traethodydd bu gwrthryfel yn Iwerddon, ond nid oedd hwnnw ond darn, megis, o'r anes- mwythder a oedd trwy ran fawr o'r byd. Yn Ffrainc, yn yr Almaen, yn yr Eidal ac yn Awstria, blynyddoedd o gynnwrf ac o chwyldroad fu'r blynyddoedd rhwng 1848 ac 1850. Ar wahân i'r cynnwrf yn Iwerddon a'r anfodlonrwydd ar Ddeddfau'r Yd ym Mhrydain, ni bu helynt difrifol yn y deyrnas hon, er bod y