Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llythyrau Evelyn Underhill Llythyrau," ebe'r Arglwydd Bacon, ydyw defnyddiau gorau hanes, ac i ddarllenydd dyfal hwy yw'r hanes gorau." Felly gyda hanes crefydd. Rhan o werth yr hyn a elwir yn llyfrau defosiwn ydyw'r llythyrau a sgrifennwyd gan wyr a gwragedd amlwg eu doniau a'u profiad ysbrydol. Dyna'n wir yw cynnwys rhan helaeth o'r Testament Newydd. Llythyrau at eglwysi neu bersonau unigol yw Epistolau Paul, Pedr ac Ioan. Hwynt-hwy a fu'n ysbrydiaeth, onid hefyd yn gynllun i lythyrau saint at ei gilydd trwy gwrs y canrifoedd. Rhagorach yw llyth- yrau Teresa, y wraig nodedig o'r Yspaen, na hyd yn oed ei gwahanol lyfrau, er mor gyfriniol uchel ydynt hwy. Llawn o'r un prydferthwch ydyw llythyrau Catrin o Siena. Trwy ei lyth- yrau a sgrifennwyd ganddo mewn unigrwydd maith y ceidw'r Ffrancwr ysbrydol hwnnw, Fenelon, ei ddylanwad ar lu o saint Duw. A welwyd er dyddiau'r Apostolion enghraifft lawnach o hawddgarwch yr Arglwydd Iesu Grist na'r hyn a geir yn llythyr- au Samuel Rutherford? Rhydd llythyrau John Wesley oleuni ar gyfnod pwysig yn hanes yr Eglwys. Wedi Llythyrau Trevecka nid oes raid crwydro ymhell i gael goleuni cyffelyb. Ceir nodwedd gyfriniol ei hemynau yn llythyrau Ann Griffiths; yng nghymdeithas y dirgelwch y sgrifennwyd hwy. Yn yr ysgrif hon gwahodd y darllenydd a wnawn at lythyrau Evelyn Underhill, chwaer a restrir bellach ymhlith cyfrinwyr mwyaf yr ugeinfed ganrif. I Ond, atolwg, pwy oedd Evelyn Underhill? Awdur rhai o'r llyfrau pwysicaf a gyhoeddwyd yn Saesneg ar Gyfriniaeth. Er mor gyfarwydd ei henw, dieithr oedd ei hanes imi hyd oni welais y gyfrol hon o'i llythyrau, a gyhoeddwyd ar ôl ei marwolaeth. Mewn rhagarweiniad ceir portread byw ohoni, ac i hwnnw yr wyf yn ddyledus am y ffeithiau a adroddir yma. Merch ydoedd i fargyfreithiwr enwog yn ei ddydd, Syr Arthur Underhill. Ganed hi yn Wolverhampton ar y chweched o Ragfyr, 1875. Ond yn Llundain y cartrefai'r teulu.