Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Tueddiadau Diwydiant yng Nghymru I N1 ellir ysgaru bywyd economaidd Cymru oddi wrth fywyd gwledydd eraill. Gwyddys mai pwerau byd-eang yw pwerau economaidd, ac mai er eu dirfawr berygl yr anwybydda'r cen- hedloedd a gwledydd y ffaith sylfaenol hon. Gwelir yr America a Rwsia'n cerdded rhagddynt, gan adael Prydain Fawr ymhell ar eu hôl mewn poblogaeth, adnoddau naturiol a chynnydd diwyd- iannol. Gwelir y Dwyrain Pell a'i adnoddau di-fesur yntau yn mabwysiadu'r dulliau peiriannol diweddaraf, dulliau a fydd yn rhwym, maes o law, o ddwyn y rhan honno o'r ddaear i safle ddylanwadol newydd ym mywyd y byd. Gorfodir Prydain Fawr a'r Ymerodraeth i'w haddasu eu hun- ain i gyfarfod á'r amgylchiadau newyddion, ac mewn cynadledd- au swyddogol ac answyddogol gwelir nad gwaith hawdd ydyw'r gorchwyl hwnnw. Sut y gellir diogelu a chryfhau hen rwymau traddodiadol dan straen y grymusterau nerthol a deimlir o gyf- eiriadau newyddion? Sut y dygir bywyd diwydiannol yr hen ganolfannau i gyfateb â'r gorau yn y bywyd cyfoes ? Dyma'r rheswm am bryder rhai yng nghanol yr holl siarad am waith i bawb, diogelwch i bawb a phynciau cyffelyb, oherwydd gorffwys cysgodau Hot Springs, Bretton Woods, Dumbarton Oaks, Yalta a San Ffrancisco yn drwm arnynt. Ni all Cymru feddwl yn effeithiol am ei dyfodol economaidd ar wahân i'r ystyriaethau hyn. Y mae'n rhaid iddi dderbyn y ffaith fod bywyd didoledig yn amhosibl iddi. Ei gobaith ydyw sicrhau'r mesur mwyaf posibl o sadrwydd economaidd fel sylfaen i'w bywyd cymdeithasol, gan gydnabod mai fel darn mewn cyf- undrefn fwy yn unig y mae hynny'n bosibl iddi. 11 Pa beth yw'r rhagolygon iddi? Cyn hir iawn bydd yn gyfyng ar Gymru am boblogaeth. Medd Mr. D. Caradog Jones, mewn anerchiad diweddar: