Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Safon Lenyddol y Traethodydd (1845— 1854). YN y prospectus a ymddangosodd yn Y Drysorfa, Rhagfyr 1844, gan Roger Edwards, dywedir am Y Traethodydd Bydd yn cynnwys traethodau gorphenedig gan ysgrifenwyr penodol, ac felly ni bydd yn agored i ohebiaeth gyffredinol. Trwy ddyfod allan yn chwarterol, ac nid yn fisol, bydd yn rhoddi amser a man- tais i'r ysgrifenwyr i gwblhau cyfansoddiadau teilwng." Dyna osod safon newydd nas gosodwyd o'r blaen yng Nghymru. I gynnal y safon hon yr oedd eisiau ysgrifenwyr medrus, manwl a dysgedig. Gwaith ofer fyddai i neb o'r prentisiaid llên geisio ymwthio trwy grau mor gyfyng; er hynny er eu lles hwy yn ben- naf y gosodwyd y safon. Yr oedd y cylchgrawn newydd i gyn- nwys erthyglau a thraethodau ar ddiwinyddiaeth a gwybodaeth gyffredinol, ac adolygiadau diduedd a manwl ar lyfrau Cymraeg a Saesneg. Ni dderbynnid ond cynhyrchion o radd uchel iawn. It is very far from our thoughts to insert the productions of unfledged contributors," meddai'r Dr. Lewis Edwards mewn llythyr at Eben Fardd (Bywyd a Llythyrau y Parch. Lewis Edwards, D.D., td. 228, 229). Nid pawb a fedrai baratoi arlwy ddethol fel hon ar gyfer bwrdd Y Traethodydd, ac aeth y gwaith o gynnal safon y cylch- grawn yn ormod o faich i'r golygwyr. Oherwydd bod pen trymaf y baich ar ysgwyddau'r Dr. Lewis Edwards, bu raid iddo ym- ryddhau o'i swydd ymhen deng mlynedd. 'Methai ysgrifenwyr â chyflawni eu haddewidion. Deuai llythyr y munud olaf yn ym- esgusodi, a byddai raid i Lewis Edwards aros ar ei draed y nos yn aml i lunio ysgrif i gwblhau'r rhifyn cyn ei anfon i'r wasg. Ond ni bu'n edifar ganddo osod safon mor uchel i'r cylchgrawn newydd, oherwydd, pan sefydlwyd Y TRAETHODYDD, sylweddol- odd Lewis Edwards un o freuddwydion mawr ei fywyd. Dair blynedd cyn rhoi'r TRAETHODYDD ar y gweill dywed mewn llythyr wrth Glan Alun: This is my devoutest aspiration, this is one of the inmost wishes of my heart of hearts, to see my beloved Wales restored to her proper place among the nations of the