Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Angen am Undeb Eglwysig yn Assam I CEIR yn nhalaith Assam gymdeithas Gristnogol y sy'n rhifo 350,000, a pherthyn o leiaf go y cant o'r rhain i lwythau y sydd ar y bryniau. Nid ymatebodd pobl y ddau ddyffryn mawr hynny, dyffryn Brahmaputra a dyffryn Surma, ond i raddau bychain i apêl yr Efengyl; ond gwrandawodd pobl y Bryniau'n eiddgar arni. Y mae tua dwy filiwn o boblogaeth ar y Bryniau, allan o ddeuddeng miliwn yn y dalaith i gyd; a rhennir hwynt yn wyth o lwythau gweddol fawr, a thua chymaint ddwywaith â hynny o rai llai, yn ychwanegol at gasgliadau eraill o bobl. Siaradant ieithoedd gwahanol i'w gilydd, y mae ganddynt arferion gwahanol, a hyd yn ddiweddar nid oedd fawr gyfathrach rhyngddynt a'i gilydd. Yr oedd moddion trafnidiaeth rhyngddynt yn brin, a'r pellder rhyngddynt yn fawr. Fodd bynnag, agorodd cenadaethau Crist- nogol i'r bobl gryfion hyn byrth a'u harweiniai i frawdgarwch cyffredinol ac i gyffyrddiad â mudiad byd-eang, h.y., ag Eglwys Crist; a newidiodd hyn eu bywyd yn llwyr. Eto, gresyn mawr yw bod gwahaniaethau enwadol yn lleihau gwerth y fraint hon i'r cyfeillion hyn. Presbyteriaid yw pobl Casia a Gogledd Lwshai; Bedyddwyr yw pobl Bryniau Garo a'r Nagas, a hefyd gwyr Dehau Lwshai, a Lutheriaid yw'r Santaliaid. Ac yn aml y mae teyrngarwch i enwad yn gryfach nag un teyrngarwch arall. Ceir eto yn Assam rai Bedyddwyr a ddywed wrth Gristnogion eraill nad ydynt hwy'n Gristnogion iawn am na throchwyd hwynt amser eu bedyddio. A cheir eto Anglicaniaid a ddywed wrth eraill nad ydynt hwy'n gadwedig am na chawsant fedydd esgob. Y mae'n wir na ddysgir hyn gan awdurdodau eglwysig, ac na chymerad- wyir' y ddysg hon ganddynt hwy; ond er hyn fe erys y syniadau hyn ymhlith y bobl gyffredin. Er hyn oll cerddasom lawer ymlaen i gyfeiriad undeb eglwysig. Ni phoenir ni bellach gan gystadlu agored; parcha pob cenhad- aeth diriogaeth ei chymydog. Megis y gwnâi Cristnogion rhan- nau eraill o'r India, cymerem ninnau, drigolion Assam, ddiddor- deb yn y cynllun o undeb a drafodwyd yn Neheudir India, a