Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ychydig Eiriau Ar ôl dosbarthu'r gofod i'r erthyglau teilwng, darganfuwyd fod bwlch o dri thudalen yn y rhifyn hwn. Ni wiw gofyn i neb o'n gohebwyr hyglod ysgrifennu erthygl ddigon ber i'w lenwi: bu- asai hynny yn sarhad personol ac yn friw i deimladau tyner pwy bynnag y rhyfygem nesu ato gyda'r fath neges. Felly nid oes dim i mi ei wneud ond llenwi'r twll yn fy ffordd fy hun. A chyda'ch cennad, mi garwn wneud hynny eto mewn amgylch- iadau cyffelyb. Blinir rhai o'm cyfeillion gan ansicrwydd meddwl am ystyr fanwl ambell air, ac â rhai ohonynt i'r fath gyflwr o bryder na wna dim y tro ganddynt ond ceisio cael golau ar yr hyn a elwir yn darddiad y gair, neu wreiddyn y gair. Rhag cwn a pheri cynnwrf, gwell peidio a mynd i eithafion gwreiddgarol felly yn y cylchgrawn hwn, ond credaf nad anfuddiol fuasai trafod ystyron y cyfryw ar fyr eiriau. Mae deall gair yn fanwl yn gymorth anhepgor i feddwl yn fanwl ac yn glir. Cymerer er enghraifft y gair addoli. Diau fod gan bawb ryw frith syniad o'r hyn a olyga. 'Erbyn hyn magodd ystyr gyfoethog ac arbennig ynglyn â'n crefydd gyhoeddus. Gair o barch yw. Saif hefyd am barchu yr uchaf y gwyddom amdano. Gwnawn hynny mewn tai a elwir yn addoldai: i'r amcan hwnnw yn en- wedig ac arbennig y codwyd hwy. Un o atebion Crist i'r temtiwr oedd, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn unig a wasanaethi." Beth yw hanfod ei ystyr? Cynigiodd rhai ei esbonio fel benthyg o'r Lladin adoro, neu adoleo, ond ceir trafferth enbyd i esbonio'r ffurf, os tardd o'r cyntaf, ,ac i esbonio'r ystyr, os o'r ail. Felly, gwell gennyf ei esbonio fel gair Cymraeg cynhenid. Gwyr pob Cymro beth yw dôl; i ddechrau tro neu blygiad mewn afon, ac yna y maes gwastad sydd yn y plygiad hwnnw. Cwlwm dolen yw cwlwm â phlyg ar y llinyn neu'r rhaff y plygiad yw'r ddolen. Fy nghynnig i, gan hynny, yw mai plygu yw addoli. Cryfhau y mae'r a- ar ddechrau'r gair hwn; addoli yw plygu'n grwm ac isel, cf. dwyn mewn Hen Gymraeg yn golygu 'hardd', fel yn enw'r santes Dwyn Wen a goffeir yn Llan-ddwyn yna