Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad HANES LLENYDDIAETH GYMRAEG HYD 1900. Gan Thomas Parry. Caerdydd Gwasg Prifysgol Cymru. 1944. Td. x., 323. 10/6. Darllenais rai blynyddoedd yn ôl gân a gyfansoddwyd rhwng gwir a chellwair i fwrw tipyn o wawd a dirmyg ar waith rhai sy'n ymhyfrydu mewn geiriau, ac yn ymroddi i chwilio'u hystyr a'u hanes a'u tarddiad. Y mae'r gyfrol odidog hon o waith Mr. Parry yn dangos yn rhyfedd o glir mor gyf- eiliornus oedd y gân honno. Ni ellir llenyddiaeth heb eiriau, ac ni ellir deall llenyddiaeth heb ddeall ei geiriau. Esgorodd diffyg dealltwriaeth felly ar lawer esboniad a damcaniaeth ddigrif ar bethau yn ein llenyddiaeth, yn arbennig wrth geisio dehongli rhai o'n trysorau llenyddol hynaf. Ond yn raddol cafodd y nodiadau dirmygedig ar eiriau a ffurfiau eu dydd, ac allan ohonynt fe darddodd golau a gwres fel y daw golau a gwres o'r glo brwnt o grombil y ddaear. A newid yr ymadrodd, cafwyd ynddynt sail gadarn i adeiladu arni astudiaeth sicrach o hanes ein llenyddiaeth. Yr oedd y dasg yr ymgymerth Mr. Parry â hi yn enfawr, hyd yn oed o fewn y terfynau a osododd arno'i hun, sef nid amcanwyd ond disgrifio." Canys nid ysgafn o beth yw ceisio disgrifio cynnyrch llenyddol tair canrif ar ddeg. Er hynny fe gyflawnwyd y gorchwyl yn dra rhagorol ganddo, ac fe ddeil y gyfrol hon am gryn amser nid yn unig yn gofnod teilwng, ond hefyd, ac yn bwysicach efallai, yn dywysydd gwerthfawr i eraill a fynno ychwanegu at ein gwybodaeth o'n llenyddiaeth. Fel y dywedir yn y rhagair, y mae "o hyd lawer cwr o'r maes heb i'r ysgolheigion ei aredig," ac nid dibwys, ymhlith aml gymwynasau'r gwaith hwn, yw ei fod yn dangos y cyrrau hynny fel y galler cyfeirio'r ysgolheigion iddynt. Rhennir yr hanes yn dair pennod ar ddeg. Yn naturiol, â barddoniaeth yr ymdrinir yn y tair cyntaf, sef Hengerdd, Amryfal Hen Ganu, a Barddon- iaeth Llys. Yn y rhan hon o'r gwaith fe drosglwyddir i'r lliaws mewn dull clir a chryno ddehongliad yr Athro Ifor Williams o'n barddoniaeth hynaf. Rhoddir llawer o ddyfyniadau a'r geiriau wedi eu troi i ffurfiau Cymraeg Diweddar. Ychwanegir trosiad rhyddiaith weithiau a phryd arall ychwan- egir esboniad ar eiriau dieithr. Mae'r dull hwn i'w ganmol mewn llyfr o'r fath, oblegid tuedd dyfynnu'n llythrennol o'r hen lawysgrifau, gyda'u con- fensiynau orgraff, fyddai tywyllu cyngor..Rhoir cywirach syniad i'r darllen- ydd cyffredin o'r hyn a ddywedai'r bardd. Mewn ychydig iawn o'r dyfyniad- au, credaf y gallasai Mr. Parry fynd fymryn ymhellach nag y gwnaeth, ac efallai y gellir awgrymu bod un neu ddau o'r diweddariadau yn annhebygol. Er enghraifft, yn y dyfyniad cyntaf ar dud. 10 ceir Dyddybydd gwaneg ddybrys iddi, Ile y cymerir dybrys fel ansoddair gyda gwaneg. Ymddengys yn sicrach mai berf yw dybrys, nid ansoddair. Ar dud. n gwell fyddai Ator ar Ynnon (yn lle ar gynhon); td. 17 a ryfcdd nag a rhyfedd; td. 24, a barchellan nag a farchellan, nid hawdd gysgaf na nid hawdd cysgaf, ac yd borthais nag