Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae hon yn hwylus a gwerthfawr. Dan yr wythfed bennod gallasid ychwan- egu erthygl yr Athro Ifor Williams ar "Gruffydd Robert o Filan" yn Y TRAETHODYDD, 1939, td. 19,3-208. Mae arnom ddyled fawr i Mr. Tom Parry am y gyírol hon. Llwvddodd i ddangos yn gryno ynddi stad ein gwybodaeth heddiw am ein llenyddiaeth yn ei gwahanol gyfnodau. Cerddodd ei lwybr yn sicr a diwyro, heb fwhwman na gwamalu. Mynegodd y cwbl mwn arddull goeth ac iaith sydd yn naturiol gyfoethog ac iddi flas y pridd ac eto geinder llenyddol heb rith mindlysni. A bertawe. HENRY LEWIS. Y Parch. D. Francis Roberts Y mae gennym y gorchwyl prudd o gofnodi colli un o Olygyddion Y TRAETHODYDD. Bu Mr. Roberts farw yn sydyn yn ei gartref yn y Bala ar fore Sul, Medi 9, a gosodwyd ef i orwedd ym mynwent Caeathro, Medi 12. Penodwyd ef yn aelod o'r Bwrdd Golygu yn 1929. Ar ôl marw y Parch. J. E. Hughes, Caernarfon, ef a weithredai fel Ysgrifennydd y Bwrdd, ac arno ef yn arbennig y disgynnai'r gwaith o drefnu'r rhifynnau, darllen y profienni a gofalu bod y cwbl yn nwylo'r cysodydd fel y byddai pob rhifyn allan yn ei amser priodol. Cyflawnodd y gwaith hwn yn gydwybodol a thrylwyr. Ysgrifennodd erthyglau ac adolygiadau mynych ei hun. Yr oedd ei holl waith yn drefnus-a graenus. Darllenai'r ysgrifau a ddeuai i'w law yn ofalus, a chywirai'r iaith. Y mae llawer o raen llenyddol ysgrifau'r TRAETHODYDD yn ddyledus iddo ef; nid ychydig o'r ysgrifenwyr o dro i dro a ddiolchodd iddo am ei gymwynas. Mentrasant fwrw eu pryder am gywirdeb orgraff a chystrawen arno ef, a chymerodd ef y baich, a chariodd ef yn ddirwgnach. Ond yr oedd un peth yn peri iddo rwgnach yn chwerw, sef diofalwch pobl wrth ddyfynnu. Ni adawai ddyfyniad amheus o'i ddwylo nes ei gymharu â'r gwreiddiol. Parodd hyn lawer o drafferth iddo o dro i dro, gan yr ystyriai fod sicrhau cywirdeb yn y cynhyrchion yn rhan o gyfrifoldeb Golygydd. Dangosodd yr un math o ofal fel Is-olygydd y Geiriadur Beiblaidd, ac wrth olygu Gwerslyfrau'r Cyfundeb at wasanaeth yr Ysgol Sul. Teimlai aelodau eraill y Bwrdd Golygu yn ddiolchgar iddo am y gofal arbennig hwn. A gwelant eisiau ei feddwl trefnus, ei farn ddiogel a'i chwaeth bur wrth gynllunio cynnwys dyfodol Y TRAETHODYDD. Gwnaeth ef ei orau i gadw safon y cyhoeddiad yn uchel ac i ychwanegu at ei werth a'i ddefnyddioldeb. D.P.