Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Gwyrth* Y MAE'R amheuaeth a geir heddiw ar bwnc y gwyrthiau yn ganlyniad cyfnewidiad pendant iawn ym marn pobl, a hawdd y gellir gweled tair pennod hollol glir yn natblygiad y cyfnewidiad hwn. Yn y lIe cyntaf, cynigid esboniad boddhaol a syml ar y gwyrth- iol gan syniad yr oesoedd canol am y byd, y syniad a ddeilliodd o ddysgeidiaeth yr Eglwys ac o lên glasurol yr hen fyd. Credid bod Duw yn gweithredu'n arferol drwy gyfrwng ail achosion, eithr fel yr Achos mawr cyntaf cadwodd yn ei law ei hun yr hawl i weithredu'n uniongyrchol, petai angen am hynny. Ystyrid ymhellach fod y cyfryw amgylchiadau yn bod pan sylfaenwyd yr Eglwys, pryd yr oedd angen gwyrthiau i brofi gwirionedd datguddiad dwyfol: a gallai amgylchiadau ddigwydd eto pryd y byddai angen profi pwy oedd a phwy nad oedd ymysg y seintiau. I ddefnyddio cymhariaeth o fywyd heddiw, gall pennaeth gwaith diwydiannol mawr ddelio fel rheol â'i gwsmeriaid drwy ei ysgrifenyddion, ond mewn amgylchiadau arbennig dichon alw ei hun ar un ohonynt. Cyrhaeddwyd yr ail bennod yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r un ddilynol, pan gofleidiwyd y syniad mecanistig am y byd dan ddylanwad cyfres o feddylwyr, o Copernicus i Newton. Estyn- nwyd brenhiniaeth Rhifyddiaeth gymaint fel na ellid, i bob golwg, osod terfyn iddi, a disodlwyd y gwahaniaethau mewn hanfod a natur y gosodasai Aristotl gynt bwys arnynt gan ystyriaethau rhif, a mesur, a phwysau. Yr oedd yn wir am luoedd a gynorthwyodd y syniad mecanistig am y byd i ennill y dydd eu bod o ysbryd gwir grefyddol ac ni ddymunent am foment gau allan bosibilrwydd ymyriad dwyfol. Y mae iaith Boyle yn ddigon pendant: "Nid yw'r athrawiaeth hon yn anghyson â'r gred mewn gwyrthiau gwirioneddol, oherwydd rhagdybia fod cwrs arferol a sefydlog natur i'w ddiogelu heb wadu o gwbl fod Darlith a draddodwyd ar agoriad tymor 1945­1946 yn y Coleg Diwinyddol, Aberystwyth, Hydref, 1945, gan E. L. Allen, M.A., Ph.D., Darlithydd mewn Diwinyddiaeth, King's College, Newcastleon-Tyne, ac a gyfieithiwyd gan y Prifathro G. A. Edwards.