Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dechrau Blwyddyn* Rywsut mae'n dda gen i mai heno'r ydwi'n siarad, ac nid neithiwr, dydd cyntaf blwyddyn, nid dydd olaf blwyddyn. Mae 'na fyd o wahaniaeth rhyngddyn nhw â'i gilydd. Ar noson ola'r flwyddyn fedrai yn fy myw gael gwared o'r syniad y dylwn i fwrw golwg ar y flwyddyn sy wedi mynd heibio, a phasio barn arni hi, neu'n hytrach arna'i fy hun. Nos barn ydyw. Y fi ydyw'r barnwr; y fi hefyd sydd yn y doc ar fy mhrawf, y barnwr a'r barnedig. Y swn yn fy nghlustiau fydd Y gwir, yr holl wir, a'r gwir yn unig," achos fi hefyd yw'r tyst, y prif dyst, neu'n gywirach, yr unig dyst y mae'r llys am ei glywed, gan mai fi yw'r unig un sy wedi bod ynghwmni ac yng nghyfrinach y cyhuddedig ar hyd yr amser. "Wel," ebe rhywun, sut y bu hi, tybed? Beth oedd y ddedfryd?" 'D ydwi ddim yn siwr a oes gen i hawl i ddweud ar goedd, achos, welwch i, llys preifat oedd y llys, a'r drysau ynghaead. Hwyrach y ca'i ddweud mai tipyn yn ddi-drefn oedd y gweithrediadau, ac o'r diwedd aeth yn ffrae ben-ben rhwng y barnwr a'r tyst a'r carcharor, fel nad oedd modd i'r un ohonyn nhw glywed y llall yn iawn, y tri yn siarad ar draws ei gilydd. Taerai'r carcharor nad oedd y barnwr yn atebol i'w swydd. Pleidgar oedd y tyst, ac yn gwrthod cofio. Bob hyn a hyn mynnai'r cyhuddedig wneud areithiau hirion i'w esgusodi ei hun, ac yr oedd y barnwr yn perthyn yn rhy agos iddo i roi taw pendant arno fo. Aeth pethau yn bur aflêr, a'r syniad sydd gen i yw iddyn nhw basio o'r diwedd fod yn rhaid anfon yr achos i lys uwch. Ond heno yr ydan ni ar ddechrau blwyddyn newydd: nid edrych yn ôl yw'n gwaith ond edrych ymlaen. Diwrnod felly yw hi: dechrau blwyddyn newydd. A'r cyweirnod yw Gobaith. 'D wn i ddim yn iawn beth yw Gobaith, ond ei fod i'w gael fel cydymaith i'r gair Dechrau: dau bartner ydynt. Fyddwn ni byth yn gobeithio wrth orffen, nac wedi gorffen, ond mae Gobaith yn gymar addas i bob cychwyn. Edrych ymlaen ydyw, Darlledwvd y sgwrs hon Ionawr i, 1946,