Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Dwyrain a'r Gorllewin Yr ornest fawr yn y flwyddyn 1946 oedd yr ornest rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin. A hon fydd yr ornest fwyaf yn y flwyddyn 1947 a'r blynyddoedd sydd i ganlyn. Yma ni ellir ond nodi yn fras rhai o agweddau'r ddrama fyd-eang dan dri phen Yn gyntaf, Y Deffroad yn Asia; yn ail, Rwsia a'r Gwledydd Slaf; ac yn drydydd, Yr Unol Daleithiau a Rwsia. Y Deffroad yn Asia. Nodwedd amlwg yn ystod ac ar ôl Rhyfel 1914­1918 oedd rhifedi'r cenhedloedd yn Ewrop a ddeisyfodd­yn llwyddiannus -am gael bodoli fel gwledydd annibynnol. Atgyfodwyd Poland, er enghraifft; daeth Tsecoslofacia, o dan arweiniad Masaryk, yn wlad annibynnol: enillodd Ffinland hunanlywodraeth, ac felly hefyd wledydd bychain y Baltig-Latfia, Estonia a Lithwania. Y mae'r hyn a ddigwyddodd yn Ewrop wedi'r Rhyfel Mawr cyntaf yn digwydd yn awr ar raddfa fwy yn Asia. Ar draws Asia yn 1946 yr alwad oedd am annibyniaeth cenedlaethol ac am weld diwedd ar reolaeth y Gorllewin. Yn y byd Arabaidd, gwelwyd datblygiadau trawiadol. Galwodd yr Aifft am i'r Lluoedd Prydeinig ymadael o'r wlad. Mynnodd Syria a Libanus weld terfyn ar feddiant milwrol Ffrainc. Dynesodd yr holl wledydd Arabaidd at ei gilydd, a chrewyd rhywbeth tebyg i Gyngrair Arabaidd. Ac er mor rhanedig yw'r gwledydd Arab ar aml i gwestiwn, y maent yn unfryd unfarn ynglyn â Phalesteina. Rhaid iddi fod yn wlad annibynnol Arabaidd. Gall gynnwys lleiafrif Iddewig, ond fel gwlad, rhaid iddi fod yn Arabig. Y mae'r Iddewon, ar y llaw arall, yn fwy penderfynol nag erioed o sylweddoli'r breuddwyd o gael gwlad annibynnol Iddewig ym Mhalesteina. Ac yn 1946. oherwydd terfysgiadau'r Blaid Iddewig (Zionists), yr oedd y sefyllfa yn alaethus. Gofynnwyd, gan Mr. Churchill ymysg eraill, onid oedd yr amser wedi dod i wneud Palesteina yn gyfrif- oldeb i'r byd, ac oni ddylai Prydain drosglwyddo ei Mandad ar Balesteina i'r Cenhedloedd Unedig?