Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Astudiaeth yr Hen Destament, 1939— 1946 MYNEGODD y Proffwyd Joel addewid yr Arglwydd y talai i'r bobl y blynyddoedd a ddifaodd y ceiliog rhedyn a'r plâu eraill a anfonodd yr Arglwydd i'w plith (ii. 25). Meddyliwn ni am chwe blynedd y. rhyfel, a'r colledion a'r galar a fu ym mhob cylch ar fywyd. Ni chawn heddiw chwaith sail gadarn iawn dros deimlo fod proffwydoliaeth Joel ar fedr cael ei chyflawni, ond teimlwn mai anfoesol braidd yw ymostwng gormod i ddadrith a siom, a cheisiwn gredu, eto yn ôl Joel, a'i ddehongli mor llythrennol ag y bo modd, Yna y bwytewch, gan fwyta ac ymddigoni; ac y moliennwch enw yr Arglwydd eich Duw, yr Hwn a wnaeth â chwi yn rhyfedd; ac ni waradwyddir fy mhobl byth." Y gwaith cyntaf tuag at adfer ein gobaith yw penderfynu gwneud y gorau o'r gwaethaf, a cheisio cymryd stoc o'r hyn sydd yn weddill. Fy amcan yn hyn o lith yw ceisio rhoddi amlinelliad o gyflwr astudiaeth yr Hen Destament ym mlynydd- oedd y gofid, gan obeithio hefyd awgrymu y geill cyfnod newydd fod yn agor o'n blaen y cawn ynddo bwyslais amgen ar Air Duw nag a fu yn y blynyddoedd cynt. Ers amser maith bellach bu'r gangen hon o wyddor Diwinyddiaeth ac Ieitheg yn weddol drefnus, a chyn y rhyfel, cyhoeddid yn weddol gyson mewn cyfnodolion amlinelliad o waith arbenigwyr. Ym Mhrydain cyferfydd yn rheolaidd y Society of Old Testament Studies, ac ail-ddechreuwyd cynnal cyfarfodydd cyn gynted ag y gorffennodd y rhyfel. Ym mis Medi diwethaf, yng Nghaerdydd, cynhaliwyd cyfres o gyfarfod- ydd cyd-genedlaethol, a chynrychiolwyd yno wledydd Ewrop o'r bron ac eithrio'r Almaen, er bod papur o'r wlad honno wedi ei ddarllen yno hefyd. O dan nawdd y Gymdeithas hon, ac ar gyfer y cyfarfod uchod, paratowyd llyfryn* dros 60 o dudalennau p faint, yn cynnwys rhestr o'r prif lyfrau a gyhoeddwyd yn ystod y rhyfel, ynghyd â nodyn byr ar natur a chynnwys y gwaith. Carwn yn y cyswllt hwn fynegi fy nyled i'r llyfryn am lawer o gynnwys yr ysgrif hon. The Book List of the Society of Old Testament Studies, 1946, 3/ i'w gael oddi wrth yr Athro G. Henton Davies, 3, The Dell, Westbury on Trym, Bristol.