Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pwy oedd Shon Gwialan? Gŵr a achosodd gryn drwbl i lenorion ac ymchwilwyr ers tua chant a hanner o flynyddoedd ydyw Shôn Gwialan. Chwilfrydedd yn fwy na dim arall a barodd hyn. Llawer a fu'r ymholi a'r chwilota yn ei gylch, a chan nad oedd ei achau na'i hanes ar gael, rhaid oed dyfalu. Diddorol ydyw'r stori, ac er na lwyddwyd i ddatrys y broblem, y mae'r ymchwiliadau a wnaed, hyd yn hyn, wedi rhoi graddau o oleuni ar y dirgelwch. Hyd yma nid ydyw'r llen wedi ei chodi'n ddigon uchel i ddangos pwy oedd y person a achosodd gymaint o fflangellu ar un llaw, a chymaint o edmygu ar y llaw arall. Y stori'n gryno yw hyn, fod pamffled wedi ei ysgrifennu gan Shôn Gwialan" yn 1796 yn cyhuddo Dr. Warren, Esgob Bangor, o benodi Saeson i fywiolaethau Cymreig, iddo ffafrio ei deulu ei hun trwy eu penodi i swyddi o gyfrifoldeb heb fod ganddynt y cymwysterau angenrheidiol iddynt­penodi nai na feddai'r cymeriad gorau ac na fedrai Gymraeg yn Ddeon Bangor, a nai arall yn Gofrestrydd yr Esgobaeth cyn iddo gyrraedd yr oedran gofynnol i ddal swydd o'r fath. Hefyd, honnid ei fod yn wrth-Gymreig, a bod Cymry da yn yr Esgobaeth, fel canlyniad hynny, wedi cefnu ar yr Eglwys. Teitl y pamffled ydyw: Letter to the Right Reverend Dr. Warren on his conduct as Bishop of Bangor. Cymerwyd yn ganiataol am amser maith mai offeiriad amlwg yn Esgobaeth Bangor ydoedd awdur y pamffled. Ni ellir beio neb am gredu hynny gan i rywun fod yn ddigon pendant i gyhoeddi — heb seiliau digonol mai hwnnw oedd yr awdur. Cyhoeddwyd yr honiad hwn yn y Cymru (O.M.E.) a'r TRAETHODYDD, ac o hynny ymlaen, hyd o fewn ychydig flynydd- oedd yn ôl, nid oedd amheuaeth ym meddwl neb nad y gwr parchedig a enwyd oedd ýr awdur. Ond daeth ymchwilydd craffach i'r maes, ac o hynny ymlaen canfuwyd fod y seiliau yr adeiladwyd arnynt yn gwegian. Yn anffodus, nid oedd gan yr amheuwr hwn sail amgenach nag amheuaeth. Fodd bynnag, bu'n gyfrwng i roi cyfeiriad newydd i'r ymchwiliadau. Deallaf,