Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad DATBLYGIAD A DATGUDDIAD: Y Ddarlith. Davies am 1942. Gan G. Wynne Griffith. Lerpwl Gwasg y Brython. Hugh Evans кı'í Feibion, Cyf. Pris 10/6. Traddodwyd cnewyllyn y llyfr hwn gan ei awdur, y Parch. G. Wynne Griffith, gweinidog y Tabernacl, Bangor, fel Darlith Davies yng Nghymanfa Gyffredinol Treforus, Mehefin, 1942. Clywais ei thraddodi. Yr oedd hen gapel hardd Philadelphia, gyda swyn Thomas Levi yn aros o hyd o'i gwmpas, yn llawn. Y dystiolaeth gyffredinol y pryd hwnnw ydoedd bod y ddarlith o ran ei chynnwys yn gampus, a'r traddodiad ohoni o dan eneiniad. Y mae Mr. Wynne Griffith i'w ganmol am droi'r ddarlith honno ar destun mor anodd yn llyfr graenus, a hynny mor fuan ar ôl ei thraddodi, ac yn wyneb yr anawsterau presennol ynglŷn ag argraffu. Nid rhaid i'r awdur wrth lythyrau canmoliaeth. Ef yw un o brif lenorion y Cyfundeb. Cyfrannodd yn helaeth ers blynyddoedd at lenyddiaeth Feiblaidd a Diwinyddol. Gwyddys am ei lyfrau ar Y Groes a Hanes yr Ysgol Sul yng Nghymru. Mawr yw ein dyled iddo am ei lafur llenyddol, yn enwedig am y gyfrol olaf hon o'i waith. Dyma lyfr a gafael ynddo. Dengys ôl llafur a gwybodaeth eang ym meysydd gwyddoniaeth, athroniaeth a diwinyddiaeth. Y mae'r llyfr yn gorchuddio cylch eang ond y mae gan yr awdur feistrolaeth dda ar ei ddefnyddiau. Ei nod mawr .yn y ddarlith yw dangos fod a wnêl Ysbryd Duw â gweithrediadau meddwl dyn pan yw'n sylwi'n gywir, yn gwneud arbrofion têg, yn tynnu'r casgliadau priodol, ac yn defnyddio'r wybodaeth a geir yn y gwyddorau, yn ogystal a phan fo'r un Ysbryd yn ymyrryd â meddwl a chalon dyn mewn Datguddiad. Datgan yr awdur ei feddwl yn glir mewn brawddegau byrion bachog. Ceir amryw o gymariaethau byw ganddo sy'n help i'r darllenydd ddeall ei feddwl. Er enghraifft, dyna ddameg y ddeufor gyfarfod," y ddau gwmni yn twnelu'r mynydd o ddau gyfeiriad gwahanol," a'r "fôrfran yn pysgota." Ergyd yr olaf yw dangos ystyr y gair Emergent. Ceir ynddo hefyd eiriau Cymraeg da fel rhychwantu" ac "arfod" sydd ynddynt eu hunain yn cyfleu ei feddwl i'r dim. Ond nid â'r agweddau hyn ar y gwaith y mae a fynnom ni yn yr adolygiad hwn. Ceisiwn edrych arno fel llyfr yn delio â materion o bwys ym maes Gwyddoniaeth, Athroniaeth a Christionogaeth. Haedda Mr. Wynne Griffith glod am ymaflyd mewn pwnc sydd yn mynd at wraidd y dehonglaid Cristionogol o fyd a bywyd. Saif Datblygiad am egwyddor fawr y darganfuwyd ei hystyr o'r newydd trwy waith Darwin yn ei Origin of Sŷecies, 1859, a'i ddilynwyr — egwyddor y gwnaed eilun ohoni ac a orseddwyd bron ymhob cylch o wybodaeth yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Saif Datguddiad, yntau, am y wybodaeth, nid a enillwyd gan ddyn ond a rad roddwyd gan Dduw-gwybodaeth oruwchnaturiol y ceir crorticl Ohoni yn y Beibl, a'r unig wybodaeth a rydd iechyd ysbrydol a