Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Teyrnas Nefoedd a Chenhedloedd fel Cymdogion A'R person unigol y mae a fynno Teyrnas Nefoedd yn gyntaf oll. Iddo ef, yn uniongyrchol, y cynnig hi ei bendithion ac y cyhoedda ei gofynion. Ac y mae a fynno hi ag ef fel cymydog. Llefarodd yr Iesu un o'i ddamhegion ar y pwnc, sef dameg y Samariad Trugarog. Daeth ato gyfreithiwr a gofyn iddo, Athro, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol?" Parodd yr Iesu iddo ateb ei gwestiwn drosto'i hun, trwy ofyn iddo beth oedd yn ysgrifenedig yn y gyfraith? Etyb yntau, fel gwr cyfarwydd yn y gyfraith, yn ddigon rhwydd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl nerth, ac â'th holl feddwl; a'th gymydog fel ti dy hun." Ond ni fyn y cyfreithiwr gau'r mater felly, eithr gofyn gwestiwn pellach, sef, "A phwy yw fy nghymydog?" Profi'r Iesu a'i rwydo oedd ei fwriad, a thybiai y llwyddai i'w arwain i anhawster. Cyfyngai'r Gyfraith gylch y gair cymydog i'r genedl Iddewig. Na ddiala ac na chadw lid i feibion dy bobl: ond câr dy gymydog megis ti dy hun" (Lef. xix. 18). Rhagdybia'r cyfreithiwr na fodlonai'r Iesu ar y cyfyngu hwn, ond y mynnai fyned dros ben ffin y genedl, a thrwy hynny ei wneuthur ei hun yn euog o ddysgu'n groes i'r Gyfraith. Yn wyneb hynny, yr hyn a wna'r Iesu yw rhoi enghraifft fyw o'r gwir gymydog yn gweithredu, ac nid cynnig diffiniad geiriol ohono. Prif gymeriad y ddameg yw'r Samariad trugarog gwr a leinw'r syniad o gymydog i'r ymylon. Wrth ddarllen hanes, canfyddir y duedd, drwy'r oesoedd, i gyfyngu'r berthynas gymdogol i gylch terfynedig y teulu, y llwyth neu'r genedl. Cyfyngid ewyllys da i gylch neilltuol, heb deimlo na chydnabod unrhyw fath o rwymedigaeth i neb y tu allan i'r cylch hwnnw. Wrth olrhain yn yr Hen Destament gynnydd y syniad am foesoldeb, gwelir yr ymdeimlad o rwym- edigaeth yn ennill yn raddol mewn lled, a cheir y gorwel moesol yn agor allan y tu hwnt i ffiniau'r genedl ei hun, nes cynnwys cenhedloedd eraill. Ar y cychwyn, fel y dywedwyd, fe'i cyfyngid