Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trí Gwaredwr Dynoliaeth kíO DON i don yw hanes dynoliaeth, o gyni i gyni, o gaethiwed i gaethiwed. O fru hanes y byd hyd heddiw rhed cyfres faith o argyfyngau yn disgwyl ac yn galw am weledigaeth ac ehofnder Gwaredwr. Canys geilw cyfwng yn ddieithriad y dyn cymwys i fod yn waredwr at ei waith. Nid oes ym myd natur na dyn wagle nad oes rhywbeth neu rywun yn barod i ddod i mewn a'i lenwi; dod i'r adwy" fel y dywaid yr hen air Cymraeg. A pho fwyaf y cyfwng a dyfnaf y galw, mwyaf oll fydd y gwaredwr a gama i'r adwy. Diau y dywedir bod rhagor na thri wedi bod yn gyfryngau gwaredigaeth i ddynion o bryd i bryd drwy'r oesau; ond saif tri ar binaclau arbennig, gwaredwr cenedl hynotaf Hanes, Gwaredwr dynoliaeth ym mhob oes a gwlad, a gwaredwr a rhyddhawr y dosbarth mawr a fu am oesau lawer dan draed, heb hawl ar ddim oll, hyd yn oed eu cyrff eu hunain. Oni bai am y tri hyn a'u cyfraniad mewn gair a gweithred i ddatblygiad meddwl a moes y byd byddai dynoliaeth yn anhraethol dlotach a'i rhawd ymlaen at fywyd cyflawn, gwerth ei fyw, wedi el lesteirio yn anobeithiol. Gwaredwr cenedl Israel o gaethiwed Pharo yn yr Aifft yw'r enghraifft glasurol gyntaf. Ystyr enw Moses yw un a dynnwyd allan, gan gyfeirio at hanes ei dynnu allan o'r cawell yn yr hesg lIe gosodwyd ef yn faban gan ei fam ar lwybr merch Pharo i'w golchfa yn yr afon Neil. Ond os ei dynnu allan a gafodd ef yn faban tyfodd i fod yn gyfrwng tynnu ei genedl oll allan o gaeth- iwed yr Aifft, a'u tywys drwy'r anialwch ddeugain mlynedd i olwg Gwlad yr Addewid. Afraid inni ail-adrodd hanes Moses a phlaäu'r Aifft a'r ecsodus ac agor y Môr Coch. Y mae'r ddrama ryfedd honno mor adnabyddus i bob Cymro a hanes ei genedl a'i wlad ei hun. Darlun ar lwyfan bore'r byd yw'r ecsodus o ymgyrch bywyd drwy'r oesau,-yr ymdrech oesol a diorffwys rhwng da a drwg, gorthrwm a rhyddid. Datblygiad bywyd yw daioni a rhyddid