Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gweithgarwch Llenyddol Gweirydd ap Rhys (1807-1889) Ni chafodd Gweirydd ap Rhys ond y nesaf peth i ddim o ysgol ac eto ef oedd ysgrifennydd mwyaf toreithiog y ganrif ddiwethaf ar hanes a llenyddiaeth Cymru. Pan oedd yn hogyn pum mlwydd oed gartref ym Meudy Clegyrog Uchaf, Llanbadrig, Sir Fôn, daeth gŵr o'r enw Dafydd Dafis i gadw ysgol yn ysgubor Clegyrog Ganol. Anfonwyd Gweirydd yno ond oherwydd ymladdfa a fu rhyngddo ef a hogyn y ty nesaf a'r gosb drom a gafodd gan Ddafydd am hynny ymadawodd â'r ysgol cyn dysgu dim. Buasai ei fam farw cyn hyn, a phan oedd yn naw oed bu farw ei dad hefyd. Gwasgarwyd y plant, ac anfonwyd ef yn hogyn plwyf i Bentre'r Bwâu, Llandrygarn. O hynny allan ymroes ati i ddysgu ac ymddiwyllio. Yr oedd merch yn y pentref ychydig hyn nag ef, Marged oedd ei henw, a syrthiodd y ddau mewn cariad â'i gilydd ac y mae hanes y garwriaeth honno yn un o'r pethau lledneisiaf yn ein llenyddiaeth. Dysgodd Gweirydd ysgrifennu drwy ymarfer rhwng y llinellau yn hen gopiau Marged, ac er ei mwyn hi yr ymdrechai i ddarllen a dysgu. Ond bu farw Marged ac ymadawodd Gweirydd â'r pentre. Yn fuan wedyn aeth yn brentis o wydd, ac yn ddiweddaràch daeth yn wydd medrus iawn ei hun, yn enwedig gyda gwaith croes nid oedd ei hafal yn y wlad am y cywreinwaith hwnnw. A thrwy'r amser daliai i ddarllen a myfyrio. Byddai llyfr yn crogi o'i flaen yn y gwydd bob amser. Pan oedd yn ugain oed meddyliodd am fynd i'r ysgol wedyn, y National School y tro hwn, i ddysgu Saesneg. Hen ryfelwr oedd yr ysgolfeistr a'r ail ddiwrnod sylweddolodd Gweirydd y dysgai fwy ddengwaith trwy grogi ei lyfrau o'i flaen yn y gwydd, nag a wnai yn y ffug- ysgol ddiwerth honno." Ymysg trafferthion dechrau byw a magu tyaid o blant nid esgeulusodd ei awydd am wybodaeth o gwbl.. Gweithiai gyda'i grefft o saith yn y bore hyd naw y nos, yna ar ôl i'r teulu gadw noswyl arhosai yntau ar ei draed i astudio hyd dri neu bedwar o'r gloch y bore. Meistrolodd yr