Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Eglwys yn yr Ugeinfed Ganrif Cofiaf yr ysbrydiaeth a dderbyniais pan oeddwn yn ieuanc o ddarllen hanes y merthyron bore, ac eraill a barhaodd yn ffyddlon trwy erledigaethau creulon. Ar y meysydd cenhadol hefyd cofir am ddioddefiadau'r dychweledigion cyntaf gorfu iddynt dalu'n ddrud am eu penderfyniad a'u gwroldeb yn torri trwodd i arddel Crist. Ond pwy fuasai'n dychmygu ddeng mlynedd ar hugain yn ôl yr erlidid Cristionogion yn Ewrop, heb sôn am eu merthyru? Er hynny, felly y bu. Pan ddaeth llywodraeth bresennol Rwsia i awdurdod, wynebodd yr Eglwys yno erledig- aeth na bu ei bath erioed. Fel yn yr erledigaethau gynt, defn- yddiwyd gwatwareg a dirmyg, y llysoedd, y carcharau, a hyd yn oed y dienyddle i geisio ei dinistrio. Ataliwyd hefyd docynnau dogni bwyd; yn wir troes y llywodraeth bob gallu a feddai yn y dyfeisiau diweddaraf i boenydio'r Cristionogion, ond er i lawer orfod rhoddi eu bywydau i lawr, goroesodd yr Eglwys y cyfan. Pan gododd Nasîaeth yn yr Almaen, yr Eglwys yn unig a allodd ei gwrthsefyll. Syrthiodd yr Undebau Llafur yn fuan iawn, a chwympodd hyd yn oed y prif ysgolion bydenwog o flaen yr ymosodiad; ac wedi torri allan o'r rhyfel diwethaf, parhaodd yr Eglwys i gyhoeddi egwyddorion Teyrnas Crist, ac i brotestio yn erbyn anghyfiawnderau a chreulonderau arweinwyr eu cenedl. Seliodd llawer eu tystiolaeth â'u gwaed, a haedda'r rhai hyn, ynghyd â'u brodyr yn Rwsia, le anrhydeddus ymysg ardderchog lu'r merthyri. Amlwg yw fod gwroldeb a pharodrwydd i ddioddef tros Grist yn aros yn yr Eglwys hyd y dydd hwn. Yn yr Iseldiroedd, Denmarc a Norwy, yr Eglwys a arweiniodd yn yr ymdrech yn erbyn Nasîaeth, a chododd yr ysbryd cenedl- aethol i dir moesol uchel iawn. Yn y gwledydd hyn oll yn ystod y rhyfel enillodd yr Eglwys barch adnewyddol, a phan ddaeth eithaf ymosodiad y Nasiaid ar Brydain, ac y bu raid iddi wynebu'r enbydrwydd mwyaf a welodd erioed, dangosodd hithau wroldeb a gwydnwch dihafal. Ysbryd y Piwritaniaid, ein hynafiaid fel Ymneilltuwyr, a ail ymddangosodd yn ein dyddiau ni, oblegid