Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Oed y Ddaear Nid ydyw rhes o ffigurau yn dynodi miliynau yn cynhyrfu dim arnom ni heddiw. Clywsom yn ddiweddar fod Prydain yn unig yn gwario bron i ugain miliwn o bunnau bob dydd i bwrpas rhyfel; sonia'r seryddwyr wrthym am bellter y sêr mewn termau o filiynau ar filiynau o filltiroedd; ac i rifo'r atomau mewn gronyn o fater rhaid i'r gwyddonydd wrth rimyn hir iawn o ffigurau. Er hyn, bu blynyddoedd ar y cyfan yn fwy ffortunus na phunnoedd, milltiroedd, a rhai unedau eraill. Cyfrifir blynydd- oedd o hyd mewn degau, ugeiniau, a channoedd, a phrin iawn yw'r amgylchiadau a'r gwrthrychau a gyrhaeddodd oed parchus y mil blynyddoedd." Ni all hyn fod yn wir, fodd bynnag, am greigiau a moroedd yr hen fyd yma, gan y gwyddom oll fod y rhain yn hen, hen iawn. Rhaid i'r gwyddonydd wrth gannoedd o filiynau o flynydd- oedd i fesur eu hoed hwy, a rhydd i'r Ddaear ei hunan yr oedran teg o ddwy fil miliwn o flynyddoedd. Nid peth diweddar yw ceisio penderfynu oed y Ddaear. Ceisiodd dyn wneud hyn mewn hanner dwsin o leiaf o wahanol ffyrdd. Un o'r ffyrdd hyn oedd trwy astudio hanes y Cread yn Llyfr Genesis, ac o wneud hyn casglodd mwy nag un diwinydd i'r Ddaear gael ei chreu bedair mil a phedair o flynyddoedd cyn geni Crist, ac aeth ambell un cyn belled â nodi'r dydd o'r mis a'r awr y digwyddodd hyn. Ceir hen seryddwyr Babilon yn rhoi hanner miliwn fel oed y Ddaear, tra credai hen Framiniaid yr India fod y Ddaear, fel amser ei hunan (yn eu tyb hwy), yn bod erioed. Ffyrdd heb sail wyddonol iddynt yw'r rhai a nodwyd hyd yma. Ond y mae gan y gwyddonydd heddiw bedwar modd i benderfynu oed y Ddaear, neu o leiaf oed y creigiau a'r moroedd sydd yn blisgyn iddi. Datblygwyd y ddau fethod y gellir dibynnu fwyaf arnynt yn ystod y ganrif bresennol, fel ffrwyth astudiaeth fanwl o briodoleddau'r atomau trymaf, sef atomau'r elfennau uraniwm a thoriwm. Ond cyn ymdrîn ymhellach â'r rhain, dylid