Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dau Lyfr Emynau, I740 YNG Nghasgliad Salesbury, sy'n ffurfio rhan o Lyfrgell Coleg y Brifysgol, Caerdydd, ceir dau lyfryn prin iawn a gyhoeddwyd gan Nicholas Thomas o Gaerfyrddin yn 1740. Wrth edrych drostynt yn ddiweddar gwelais fod y sawl a'u rhwymodd wedi gosod dwy o ddalennau'r naill yn y llall, a vice versa. Y mae'n rhyfedd nad oedd neb, hyd y gwn i, wedi sylwi ar yr annibendod hwn. Ni welodd y llyfryddwr craff hwnnw, Mr. Ifano Jones, mo'r camosod canys mewn nodyn o'r eiddo ar Llyfyr 0 Hymneu Gan John Powell fe ddywaid fod ynddo emynau o waith John Lloyd, David Owens, Lewis Phillips, a David Lewis.1 Perthyn yr emynau hynny, wrth gwrs, i gasgliad arall a gyhoeddwyd tua'r un adeg, sef Llyfr 0 Hymneu 0 Waith Awryw (sic) Awdwyr. Trefnodd Mr. Hubert Morgan, y llyfr- gellydd, i ailrwymo'r ddau lyfryn rhag peri dryswch pellach i efrydwyr yr emyn Cymraeg. Bydd ymdriniaeth fer ar y ddau lyfryn yn dderbyniol, nid hwyrach, gan ddarllenwyr Y TRAETHODYDD. Wele'r hyn sydd ar wyneb-ddalen yr helaethaf o'r ddau: Llyfr o Hymneu O waith Awryw Awdwyr. I. O waith Mr. Howell Harris. II. O waith Mr. John Powell. III. O waith Mr. Enoch Fransice IV. O waith Mr. Griffith lones, Landowrw: V. O waith Mr. Griffith Jones, Landdewi. VI. O waith Mr. Lewis Jones: VII. O waith Mr. Ienkin Jones, VIII. O waith Mr. Abel Francise: IX. O waith Mr. John Lloyd X. O waith Mr. David Owens. XI. O waith Mr. Lewis Phillips. XII. O waith Mr. David Lewis Cynt Ficar o Llan Cattwg. XIII. O waith Mr. David lones. Printiedig ynghaerfyrddin gan N. T. 1 A History of Printing and Printers in Wales, td. 48.